Statistical Genetics Wiki
Cynnwys
Aderyn chwedlonol gwyn anferth yw'r roc (Perseg رخ rokh), y credid ei fod yn ddigon cryf i ddwyn a bwyta eliffantod. Ceir cyfeiriadau at y roc yng ngwaith llenorion o'r Dwyrain Canol o'r 8g ymlaen, e.e. gan yr hanesydd polymath Ibn Batuta ac yn y casgliad o chwedlau gwerin poblogaidd a elwir y Nosweithiau Arabaidd neu Mil ac un o nosweithiau.
Mae sawl esboniad rhesymegol yn cael ei gynnig am fodolaeth y roc. Gwelir eryrod ac adar mawr eraill yn dwyn oen weithiau, er enghraifft. Mae'n bosibl yn ogystal fod chwedl y roc wedi tyfu o adroddiadau teithwyr oedd wedi gweld aderyn cawraidd gwirioneddol, yr Aepyornis neu Aderyn Eliffant o Fadagasgar, aderyn nad oedd yn gallu hedfan oedd â thaldra o 3m ond sydd wedi marw allan ers canrifoedd. Ymgeisydd arall yw'r estrys.
Roedd chwedl y roc yn gyfarwydd i bobl led led gorllewin Asia. Daeth y chwedl i'r Gorllewin yn sgîl teithiau anturiaethwyr fel Marco Polo ac, yn ddiweddarach, trwy gyfieithiadau ac addasiadau o chwedlau Abd al-Rahman a Sindbad y Morwr yn y "Nosweithiau Arabaidd". Yn ôl Marco Polo mae'r rukh, neu'r gryphon,
- yn union run fath â'r eryr ond eu bod nhw'n anferth iawn... Maen nhw mor fawr fel eu bod nhw'n medru dal eliffant a'i ddwyn i fyny yn uchel i'r awyr. Wedyn mae'n gadael i'r eliffant ddisgyn a chael ei falurio'n yfflon ac ar ôl hynny mae'r aderyn gryphon yma yn eistedd yng nghanol y gweddillion ac yn bwyta wrth ei fodd... Mae ganddynt rychwant adenydd trideg troedfedd... (Marco Polo, Y Teithiau, llyfr VIII).
Mor ddiweddar â'r 16g roedd Ewropeiaiad yn credu ym modolaeth y creadur rhyfedd hwn.
Adar mytholegol cyffelyb
Mae'r roc yn debyg iawn i anqa y Dwyrain Canol ac i'r ffenics; gellid ei gymharu hefyd â'r simurgh Persaidd a'r Ziz Iddewig. Ymhellach i'r dwyrain ceir y garuda, aderyn Vishnu, ym mytholeg India, a ddisgrifir fel "brenin yr adar" yn y Panchatantra.
Llyfryddiaeth
- Edward Lane (cyf.), Arabian Nights, pennawd xx., n.22, n.62.
- R. E. Latham (cyf.), The Travels of Marco Polo (Llundain, 1958)
Dolenni allanol
- (Saesneg) Nodiadau Sir Richard F. Burton ar y Rukh
- (Saesneg) The Roc Archifwyd 2006-10-21 yn y Peiriant Wayback