Statistical Genetics Wiki

Jenin
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth49,908 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iCoslada, Sidi Bennour Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlywodraethiaeth Jenin Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Arwynebedd37.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr161 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Iorddonen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.4611°N 35.3°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolMunicipality of Jenin Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholMunicipality of Jenin Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of Jenin Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn Y Lan Orllewinol, Palesteina, yw Jenin (Arabeg: جنين ; Hebraeg: ג'נין‎). Jenin yw canolfan weinyddol talait Jenin. Mae'n ganolfan amaethyddol bwysig. Mae'n gorwedd ar fryn rhwng Dyffryn yr Iorddonen i'r dwyrain a'r Marj Ibn Amer (Dyffryn Jezreel) i'r gogledd. Mae tua 35,760 o bobl yn byw yno (2006). Cyfeirir at Jenin yn y Beibl wrth yr enw Ein Ganeem.

Lleolir gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd Jenin ar gyrion dinas Jenin, ac mae Jenin yn enw ar yr ardal o gwmpas y ddinas hefyd. Mae'r ddinas a'r ardal dan awdurdod swyddogol Awdurdod Cenedlaethol Palesteina. Oherwydd ei rhan amlwg yn yr intifada, sef gwrthsafiad y Palesteiniaid yn erbyn Israel, ymosodwyd ar wersyll ffoaduriaid Jenin gan Llu Amddiffyn Israel fel rhan o'r hyn y mae'r Israeliaid yn ei alw yn "Ymgyrch Taran Amddiffynnol" (Operation Defensive Shield) yn Ebrill 2002 ac mae milwyr Israelaidd wedi bod yn ôl sawl gwaith ers hynny hefyd. Lladdwyd dros hanner cant o Balesteiniaid gan yr Israeliaid yn ymosodiad Ebrill 2002, gyda thua eu hanner yn sifiliaid: cyfeirir at y digwyddiad fel "Cyflafan Jenin" gan y Palesteiniaid a "Brwydr Jenin" neu "Ymgyrch Jenin" gan yr Israeliaid. Parhaodd gwersyll Jenin i gael ei warchae, i bob pwrpas, gan yr Israeliaid. Saethwyd Iain Hook, rheolwr y gwersyll ar ran UNRWA, ym mhencadlys UNRWA yn Jenin gan sniper Israelaidd yn Nhachwedd 2002.[1]

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Dolenni allanol