LIMSwiki
Cynnwys
Math | cymuned |
---|---|
Prifddinas | Loctudy |
Poblogaeth | 4,011 |
Pennaeth llywodraeth | Serge Guilloux |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 12.73 km² |
Uwch y môr | 0 metr, 17 metr |
Yn ffinio gyda | Pornaleg-Leskonil, Pont-'n-Abad |
Cyfesurynnau | 47.8336°N 4.1692°W |
Cod post | 29750 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Loktudi |
Pennaeth y Llywodraeth | Serge Guilloux |
Tref a chymuned yn Llydaw yw Loktudi (Ffrangeg: Loctudy) sy'n borthladd pysgota a chyrchfan gwyliau glan y môr. Mae'n gorwedd ar aber afon Pont-l'Abbé.
Lleolir Loktudi yn arrondissement Kemper (Quimper) yn département Penn-ar-Bed (Finistère), ar orynys Penmarc'h yn Basse-Bretagne mewn rhan o Lydaw lle siaredir y Llydaweg.
Ystyr yr enw 'Loktudi' yw "lle neu gyrchfan pererindod Tudi" (cymharer Cymraeg Canol llog: "mangre cysegredig; mynachlog"). Ceir peth ansicrwydd ynglŷn â pha sant a olygir. Cred rhai ei fod yn cyfeiriad at Sant Tudi o Landevenneg tra bod eraill yn dadlau mai Sant Tudwal ydyw.
Poblogaeth
Cysylltiadau Rhyngwladol
Gefeillir Loktudi gyda
Dolen allanol
- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol