LIMSwiki

Lajos Kossuth
Ganwyd19 Medi 1802 Edit this on Wikidata
Monok Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mawrth 1894 Edit this on Wikidata
Torino Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHwngari Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lutheran College of Prešov
  • Sárospatak Reformed College Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, newyddiadurwr, gwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gynulliad Cenedlaethol Hwngari, llywodraethwr, Minister of Finance in Hungary, Prif Weinidog Hwngari, Regent of Hungary Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolOpposition Party Edit this on Wikidata
PlantFerenc Kossuth, Lajos Tódor Károly Kossuth Edit this on Wikidata
Gwobr/auhonorary citizen of Miskolc, honorary citizen of Mukachevo, honorary citizen of Csongrád, honorary citizen of Szentes, honorary citizen of Győr Edit this on Wikidata
llofnod
Un o'r portreadau cynharaf o Lajos Kossuth (1838)

Bonheddwr, cyfreithiwr, newyddiadurwr, gwleidydd, gwladweinydd Hwngaraidd a Llywodraethwr-Lywydd Teyrnas Hwngari yn ystod chwyldro 1848-49 oedd Lajos Kossuth de Udvard et Kossuthfalva (19 Medi, 1802 - 20 Mawrth, 1894).[1]

Trwy ei ddawn o annerch mewn dadleuon gwleidyddol ac areithiau cyhoeddus, daeth Kossuth o deulu bonedd tlawd i fod yn Llywodraethwr-Lywydd Teyrnas Hwngari. Fel y dywedodd y newyddiadurwr Americanaidd cyfoes dylanwadol, Horace Greeley amdano: "O'r holl areithwyr, gwladgarwyr, gwladweinwyr, alltudion, nid oes gwell, yn fyw nac yn farw." [2][3]

Gwnaeth areithiau pwerus o Kossuth gymaint o argraff yn Lloegr ac America fel bod yr awdur a chyfoeswr, yr Americanwr Daniel Webster, wedi ysgrifennu llyfr am fywyd Kossuth.[4] Cafodd ei anrhydeddu yn eang yn ystod ei oes, gan gynnwys yng ngwledydd Prydain a'r Unol Daleithiau, fel un a frwydrai dros ryddid ac fel lladmerydd dros ddemocratiaeth yn Ewrop. Gellir gweld penddelw efydd o Kossuth yng Nghapitol yr Unol Daleithiau gyda'r arysgrif (Saesneg): Father of Hungarian Democracy, Hunman Statesman, Freedom Fighter, 1848–1849 .

Bu Kossuth yn ddylanwad ar Michael D. Jonrs, y cenedlaetholwr Cymreig. Fel hyn ysgrifennodd Jones amdano ym mhapur Y Celt ar 7 Mawrth 1890:

"Yr oedd y gwladgarwr Hungaraidd bydenwog Kossuth fel seren oleu yn ffurfafen Ewrop wedi tanio llawer enaid â'r athrawiaeth anfarwol o 'hawl pob cenedl i lywodraethu ei hunan', a rhwng dylanwadau mawrion, ac addysg Kossuth, nid yw cenhedloedd goresgynedig Ewrop wedi ymdawelu hyd heddyw, ond edrychant yn obeithiol yn mlaen at jiwbili pobloedd a chenhedloedd gorthrymedig."[5]

Cyfeiriadau

  1. J.W.He. (1911). "KOSSUTH, LAJOS [LOUIS] (1802-1894)". The Encyclopaedia Britannica; A Dictionary of Arts, Sciences, Literature and General Information. XV (ITALY to KYSHTYM) (arg. 11th). Cambridge, England and New York: At the University Press. tt. 916–918. Cyrchwyd 12 February 2018.
  2. "Hungarian President Louis Kossuth Concerning the Centralization of Power". Captainjamesdavis.net. 27 February 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-30. Cyrchwyd 19 November 2017.
  3. "Kossuth County EDC". Kossuth-edc.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 19 November 2017.
  4. Daniel Webster: Sketch of the life of Louis Kossuth, governor of Hungary: Together with the declaration of Hungarian independence; Kossuth's address to the people of the United States; all his great speeches in England; and the letter of Daniel Webster to Chevalier Hulsemann (1851)
  5. Y Celt. 7 Mawrth 1890.