LIMSpec Wiki
Cynnwys
Math | gwrthrych ffisegol naturiol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gweddillion creadur byw, neu blanhigyn, o'r gorffennol pell wedi troi'n garreg (carreg waddodol fel rheol) ydy ffosil. Ffosilota ydy'r weithred o gasglu ffosiliau, a defnyddiwyd y gair hwn yn gyntaf yn 1755 mewn llythyr gan rai o Forrisiaid Môn.[1]
Mae casglu ac astudio ffosilau ar hyd yr oesoedd (neu'r raddfa amser ddaearegol) yn elfen gyffrous a hanfodol o baleontoleg: sut a pha bryd y cawsant eu ffurfio a'r berthynas rhyngddynt a'r creigiau o'u cwmpas a sut y maent yn perthyn i'w gilydd, drwy dacsonmoeg. Yn fras gellir dweud fod pob ffosil o leiaf 10,000 o flynyddoedd oed.[2] Mae eu hamrediad felly'n ymestyn o'r ienengaf i'r hynaf yn yr is-raniadau amser canlynol: o'r gyfres (neu epoc) ddaearegol Holosen hyd at yr eon Archeaidd - sef 3.48 biliwn o flynyddoedd yn ôl,[3]
Mae maint ffosiliau'n amrywio'n fawr, felly hefyd maint pethau sy'n fyw heddiw. Gallant amrywio o facteria ungell, un micrometer mewn diametr i ddinosor neu goeden anferthol sy'n pwyso sawl tunnell. Rhan yn unig o'r creadur sydd wedi marw sy'n cael ei gadw ar ffurf ffosil fel arfer: fel arfer y rhan a fineraleiddiwyd yn ystod ei fywyd e.e. dannedd caled neu esgyrn anifeiliaid asgwrn-cefn neu ysgerbwd allanol, calchog anifeiliaid di-asgwrn cefn. Ceir hefyd ffosiliau o olion wedi'u gadael gan yr anifail ei hun e.e. olion traed neu garthion (tomfeini).
Cyfeiriadau
- ↑ ffosil. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Ionawr 2021., testun ML i. 344: ‘Gwych a fai gael gafael ar rai o ffosilod Mahone’; gweler John H. Davies, The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris 1728-65 (Aberystwyth, 1967)
- ↑ "theNAT - San Diego Natural History Museum". Sdnhm.org. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2012.
- ↑ Borenstein, Seth (13 Tachwedd 2013). "Oldest fossil found: Meet your microbial mom ". Associated Press. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2013.