LabLynx Wiki
Cynnwys
Tom Parri Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1905 Ynys Môn |
Bu farw | 1980 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd ac awdur Cymreig oedd Tom Parri Jones (1905–1980), sy'n adnabyddus am ei straeon byrion ffraeth. Roedd yn frodor o Ynys Môn, lleoliad nifer o'i straeon.
Dim ond ychydig o addysg ffurfiol a gafodd. Gadawodd yr ysgol yn 13 oed i weithio ar fferm ei dad. Fe'i trawyd gan polio yn ifanc a bu'n dioddef ohono am weddill ei oes.
Roedd yn fardd crefftus. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol am y gerdd Y Bont yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandudno 1963, a'r Gadair hefyd.
Fe'i cofir yn bennaf am ei straeon byrion ysgafn a llawn hiwmor am fywyd gwerin Môn. Enillodd y Fedal Ryddiaith am y gyfrol Teisennau Berffro yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangefni 1957. Bu'n orweddiog oherwydd y polio am gyfnodau hir wrth ysgrifennu'r olaf o'r straeon hyn.
Llyfryddiaeth
Cerddi
- Preiddiau Annwn (1946)
- Cherddi Malltraeth (1978)
Straeon
- Teisennau Berffro (1958)
- Yn Eisiau, Gwraig (1958)
- Traed Moch (1971)
- Y Felltith (1977)