LabLynx Wiki
Math o gyfrwng | iaith naturiol, macroiaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Ieithoedd Mongolaidd |
Label brodorol | ꡏꡡꡃ ꡢꡡꡙ ꡁꡦ ꡙꡦ |
Enw brodorol | монгол хэл |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | mn |
cod ISO 639-2 | mon |
cod ISO 639-3 | mon |
Gwladwriaeth | Mongolia, Gweriniaeth Pobl Tsieina |
System ysgrifennu | Mongolian, Yr wyddor Gyrilig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith a siaredir ym Mongolia a rhanbarthau cyfagos o Tsieina a Rwsia yw Mongoleg. Hi yw aelod mwyaf adnabyddus y grŵp ieithyddol o ieithoedd Mongolaidd, a chredir ei bod yn perthyn i deulu ieithyddol yr ieithoedd Altaig. Ceir tua 5.7 miliwn o siaradwyr i gyd, yn cynnwys tua 90% o drigolion Mongolia, a niferoedd sylweddol ym Mongolia Fewnol.
Mae'r iaith wedi defnyddio nifer o wyddorau dros y canrifoedd. Crëwyd yr Wyddor Fongolaidd yn y 12g, a defnyddiwyd hi hyd 1943, pan ddechreuwyd defnyddio yr wyddor Gyrilig yn ei lle. Erbyn hyn, ail-ddechreuwyd dysgu'r wyddor Fongolaidd yn yr ysglion. Parhawyd i ddefnyddio'r wyddor draddodiadol ym Mongolia Fewnol, sy'n rhan o Weriniaeth Pobl Tsieina.