LabLynx Wiki
Math o gyfrwng | cyfnod, system |
---|---|
Rhan o | Paleosöig, Graddfa Cronostratigraffig Fyd-eang Safonol (Daeargronolegol) ICS |
Dechreuwyd | c. Mileniwm 419200. CC |
Daeth i ben | c. Mileniwm 358900. CC |
Rhagflaenwyd gan | Silwraidd |
Olynwyd gan | Carbonifferaidd |
Yn cynnwys | Early Devonian, Middle Devonian, Late Devonian |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfnod daearegol rhwng y Cyfnod Silwraidd a'r Cyfnod Carbonifferaidd roedd y Cyfnod Defonaidd. Dechreiodd tua 360 miliwn o flynyddoedd yn ôl a daeth i ben tua 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Enwyd ar ôl Dyfnaint yn Lloegr.
Yn ystod y Defonaidd, roedd Uwchgyfandir Gondwana yn y De a cyfandir mawr yn cynnwys Gogledd America ac Ewrop (Ewramerica) ger y cyhydedd. Roedd gwedill yr Ewrasia fodern yn y Gogledd. Roedd lefel y môr yn uchel iawn gyda môr bas yn gorchuddio Ewramerica, cyfandir lle bu llawer o newid. Am fod yr hinsawdd yn boeth iawn, dywed rhai gwyddonwyr mai "Cyfnod Tŷ Gydr" ydoedd.
Ffurfiwyd yr Hen Dywodfaen Coch o waddodion afonydd yn ystod y Defonaidd. Mae ffosilau'r cyfnod yn cynnwys y planhigion hâd cyntaf a'r amffibiaid cynharaf.
Cyfnod blaenorol | Cyfnod yma | Cyfnod olynol |
Silwraidd | Defonaidd | Carbonifferaidd |
Cyfnodau Daearegol |