LabLynx Wiki
Cynnwys
Enghraifft o'r canlynol | uned amser, Unedau ychwanegol at yr Unedau SI, uned sy'n deillio o UCUM |
---|---|
Math | cyfnod o amser |
Rhan o | diwrnod |
Yn cynnwys | munud |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae awr yn uned o amser sy'n hafal i 60 eiliad; ceir 24 awr mewn diwrnod. Lluosog y gair ydy "oriau" a defnyddir y gair "orig" am awr sydd wedi mynd yn gyflym. Weithiau, gall olygu "cyfnod o amser" e.e. 'Ni wyddoch yr awr y daw Mab y Dyn' (Beibl).
Dydy awr ddim yn uned rhyngwladol safonol (yr SI) yn swyddogol, ond caiff ei derbyn ar y cyd â'r rhestr hon fel Unedau ychwanegol at yr Unedau SI.[1] Gall awr, o fewn safon UTC (Universal Coordinated Time) gynnwys eiladau naid negyddol neu bositif (Saesneg: negative or positive leap second), ac felly, gall ei hyd gynnwys 3,599 neu 3,601 eiliad i bwrpas addasu.
Tarddiad y gair
Benthyciad o'r Lladin Hora ydyw, sydd, yn ei dro'n tarddu[2] o'r gair Groeg ὥρα ("tymor, amser y dydd, awr").
Mae'r enghraifft ysgrifenedig gyntaf o'r gair, yn Gymraeg, yn mynd yn ôl i'r 10g, sef oddi fewn y Computus Fragment.[3]
Hanes
Arferai trigolion yr hen Aifft ddefnyddio cloc haul a rannwyd yn ddiwrnod o haul (sef 10 awr) ac awr bob pen (y cyfnos). Gyda hyn, ychwanegasant 10 awr o nos; cyfanswm o 24 awr.[4]
Cynlluniodd yr hen Roegwr Andronicws o Gyrrhws beiriant horologion o'r enw "Tŵr y Gwynt" yn y Ganrif Gyntaf B.C. a oedd yn cynnwys clociau haul a rhannau mecanyddol er mwyn dweud yr amser o fewn cyfnod o 24 awr.[4]
Cyfeiriadau
- ↑ "Gwefan BIPM; Adalwyd 02/10/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-23. Cyrchwyd 2012-10-02.
- ↑ τὰ δυώδεκα μέρεα τῆς ἡμέρης παρὰ Βαβυλωνίων ἔμαθον οἱ Ἕλληνες = and the twelve divisions of the day, came to Hellas from Babylonia and not from Egypt. Hdt. 2.109;
- ↑ [Geiriadur Prifysgol Cymru; Cyfrol 1; tudalen 242]
- ↑ 4.0 4.1 "National Institute of Standards and Technology: A Walk Through Time - Early Clocks". Cyrchwyd 21 Mawrth 2011.
Gweler hefyd
- Oriawr: awrddrych, awrflwch, awrfynegydd, awrlais
- Awrfys: bys yr awr ar gloc
- Awrlestr: cloc tywod, awrwydr
- Awrleisiwr: trwsiwr clociau
- Cloc taid