LabLynx Wiki
Cynnwys
19g - 20g - 21g
1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au
1958 1959 1960 1961 1962 - 1963 - 1964 1965 1966 1967 1968
Digwyddiadau
- 14 Ionawr - George C. Wallace yn dod yn llywodraethwr Alabama.
- 22 Ionawr - Cytundeb Elysée rhwng yr Almaen a Ffrainc.
- Cynhaliwyd protest gyhoeddus gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth, pan roddwyd posteri ar adeilad swyddfa bost y dref ac ataliwyd y traffig ar Bont Trefechan.
- 19 Chwefror - Cyhoeddi The Feminine Mystique gan Betty Friedan.
- 27 Chwefror - Juan Bosch yn dod yn Arlywydd Gweriniaeth Dominica.
- 23 Mawrth - Denmarc yn ennill Cystadleuaeth Cân Eurovision yn Llundain, gyda Dansevise gan Grethe a Jørgen Ingmann.
- 22 Ebrill - Lester Pearson yn dod yn Brif Weinidog Canada.
- 4 Mai - Tân mawr yn Theatr Le Monde, Dioirbel, Senegal; 64 o bobl yn colli ei bywydau.
- 16 Mehefin - Valentina Tereshkova, yr ofodwraig gyntaf, yn peilota Vostok 6 i'r gofod.
- 21 Mehefin - Giovanni Battista Montini yn dod yn Bab Pawl VI.
- 7 Gorffennaf - Cwffio 7 Gorffennaf
- 26 Gorffennaf - Daeargryn yn Skopje
- 28 Awst - Llafar "I have a dream" gan Martin Luther King, Jr.
- 16 Medi - Singapôr yn dod yn dalaith Maleisia
- 29 Medi - Stylianos Mavromichalis yn dod yn brif weinidog Groeg
- 18 Hydref - Syr Alec Douglas-Home yn dod yn brif weinidog y Deyrnas Unedig
- 2 Tachwedd - Coup d'état De Fietnam, 1963
- 22 Tachwedd - Bradlofruddiaeth yr Arlywydd John F. Kennedy yn Dallas, Texas, gan Lee Harvey Oswald
- 24 Tachwedd - Llofruddiaeth Lee Harvey Oswald gan Jack Ruby
- Ffilmiau
- Llyfrau
- R. S. Thomas - The Bread of Truth
- Clough Williams-Ellis - Portmeirion, the Place and its Meaning
- Cerddoriaeth
- "Please Please Me" (Y Beatles)
- The Knife (opera) gan Daniel Jones
Genedigaethau
- 11 Ionawr - Arne Dahl (Jan Arnald), nofelydd
- 17 Chwefror - Michael Jordan, chwaraewr pêl-fasged
- 22 Chwefror - Vijay Singh, golffiwr
- 27 Mawrth - Quentin Tarantino, cyfarwyddwr ffilm
- 25 Mai - Mike Myers, comediwr
- 4 Ebrill - Graham Norton, comediwr
- 25 Mehefin - George Michael, cerddor
- 31 Hydref
- Dermot Mulroney, actor
- Dunga, pêl-droediwr
- 1 Tachwedd - Mark Hughes, chwaraewr a rheolwr pêl-droed
- 19 Rhagfyr - Paul Rhys, actor
- 28 Rhagfyr - Simon Thomas, gwleidydd
Marwolaethau
- 15 Ionawr - Morgan Phillips, gwleidydd, 60
- 11 Chwefror - Sylvia Plath, bardd, 30
- 4 Mawrth - William Carlos Williams, bardd, 79
- 5 Mawrth - Patsy Cline, cantores, 30
- 3 Mehefin - Pab Ioan XXIII, 81
- 17 Mehefin - John Cowper Powys, nofelydd, 90
- 15 Gorffennaf - Muhammad Ali Bogra, Prif Weinidog Pakistan, 54
- 4 Medi - Robert Schuman, gwladweinydd, 77
- 11 Hydref
- Jean Cocteau, awdur, 74
- Édith Piaf, cantores, 47
- 26 Hydref - Horace Evans, meddyg, 60
- 2 Tachwedd - Ngô Đình Diệm, Arglwydd De Fietnam, 62
- 22 Tachwedd
- Aldous Huxley, nofelydd, 69
- John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau, 46
- C. S. Lewis, awdur, 64
- 24 Tachwedd - Lee Harvey Oswald, 24
- 14 Rhagfyr - Dinah Washington, cantores, 39
Gwobrau Nobel
- Ffiseg: Eugene Wigner, Maria Goeppert Mayer a J. Hans D. Jensen
- Cemeg: Karl Ziegler a Giulio Natta
- Meddygaeth: Syr John Eccles, Alan Lloyd Hodgkin ac Andrew Huxley
- Llenyddiaeth: Giorgos Seferis
- Heddwch: Pwyllgor Rhwngwladol y Croes Coch, Cynghrair Cymdeithasoedd y Croes Coch
Eisteddfod Genedlaethol (Llandudno)
- Cadair: dim gwobr
- Coron: Tom Parri Jones
- Medal Ryddiaeth: William Llewelyn Jones, Ar Grwydr
Tywydd
Heth fawr gaeaf 1962-63
Dyma gip ar fywyd yn ystod y gaeaf caled hwn. Dechreuodd gyda barrug trwm ar 23 Rhagfyr 1962 a’r rhagarwydd o’r tywydd i ddod gyda symudiad o 6,300 o gornchwiglod mewn 39 haid yn hedfan i’r gorllewin 300 ohonyn nhw dros Gaergybi yn anelu am Iwerddon fwyn. Nododd yr adarydd Peter Hope Jones[1] Cofnododd JH Jones, Hiraethog, Cerrigydrudion ar 24 Rhagfyr: “Bwrw codl eira drwy'r dydd, caenen go arw erbyn y nos” gyda thywydd niwlog, sych, barugog yn parhau am rai dyddiau gydag eira tan ddiwedd y mis. Ar ddiwrnod olaf Rhagfyr cofnododd Defi Lango yn ei ddyddiadur Perlau’r Pridd, 2009[2]: "Ychydig o eira wedi disgyn neithiwr eto - a'r gwynt cryf yn para i'w chwythu. Mae lluwchfeydd mawr ar y tir uchel ac ambell luwch chwe troedfedd o uchder ar yr heol fawr - top Rhiw Lango a thop Crachdir”.
- Ionawr 1963
Profodd sir Fôn sychder ac oerfel parhaus yn Ionawr a Chwefror 1963, ac yn wahanol i weddill y wlad, sychder o’r bron a gwelwyd eira ysgafn dros y tir yno am ddau neu dri diwrnod yn unig (PHJ). Ar yr 2 Ionawr dechruodd ffermwyr dorri llwyni fel porthiant: “Torri eiddaw i wintrin”, (Dyddiadur Ellis Morris, Pant y Maen, Cymdu, Llanrhaeadr ym Mochnant). Ar y 3 Ionawr cofnododd EM iddi fwrw “eira drwy'r dydd a drifftio” ac yng Ngherrigydrudion yr un diwrnod roedd hi’n “Bwrw eira drwy'r dydd bron... Mynd efo Landrover Cwmain o'r Cerrig.. Aradr eira yn mynd o flaen y claddedigaeth o Pentre Mawr i'r fynwent” (JHJ). Ar y 6 Ionawr roedd Edwina Fletcher yn mudo o Llanffestiniog yng nghanol eira mawr, a dwyreinwynt yn ôl Ellis Morris - cofnododd y diwrnod wedyn: “Rhew caled iawn. Torri lot o'r eiddew i'r wyn. Oer ofnadwy rhew eto” ac “Oen bach a snow fever”. Parhaodd y tywydd rhewllyd dros Gymru gyda Defi Lango yn Esgairdawe yn nodi iddo dorri “ychydig o'r onnen, Waun Pistyll” ar y 9ed ar gyfer ei dda mae’n siwr pan u bu’n “Mwy o rew nag arfer neithiwr”. Yng Ngherrigydrudion ar y 10ed doedd hi “Ddim mor oer, ond yn oeri yn arw ar ol te. Yn rhy oer i mi gael myned i'r capel...Wedi methu godro neithiwr na bore heddiw y peipiau wedi rhewi” a chymerodd JMJ “blowe [sic] lamp” atynt ond heb lwyddiant
Caewyd yr ysgolion yn Sir Gaerfyrddin am dridiau gyda pharhad yn y tywydd “Arctic..... and we're having to feed hay to sheep morning and evening” (DL). Nododd perchen newydd Craflwyn, Beddgelert yn y dyddiadur o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar 12 Ionawr, “bloody freezing & getting worse.... went to Caernarvon shopping water still froze”. “Rhewi’n gynddeiriog” meddai EM yn Llanrhaeadr; roedd Llyn Ogwen a Llyn Padarn dan rew yn ôl y cofnodwr tywydd Les Larsen. “13 January 1963 Bitter cold. Doing nothing much. Everything iced up” meddai’r cyn-yrrwr tacsi o Craflwyn. Ar 16 Ionawr bu EM yn Llanrhaeadr yn “Cwympo pren celyn berllan i wintrin” ac ar “Noson felltigedig [y 19eg]....” fe nododd “East wind a chwythu eira yn gymylau. Torri ivy Cae Pig” - ar y 19 Ionawr “y diwrnod oera eto” meddai, yn dal i luwchio ar y 21ain, ac eto ar y 22ain “Rhew fel asgwrn. Torri eiddew hen geubren Alltfawr”. Meiriolodd ychydig ar y 26 Ionawr yn y gogledd (JMJ) ac yn y de: “Y tywydd fel pe'n gwella. Bu tipyn o doddi ar yr eira heddiw - a mannau o'r tir yn dod i'r golwg“ ac ar y 29 Ionawr “The milk lorry took our milk from the stand at the end of the lane today - it's nearly 5 weeks since it was picked up from there (DL). Ond dychwelodd yr eira ddiwedd y mis[3]
- Chwefror 1963
Ar 2 Chwefror cofnododd DL eto “Bwrw eira ar brydiau y bore, gwynt cryf prynhawn yn symud yr eira o'r caeau agored a heno mae'n rhewi'n ffyrnig. Y defaid a'r w^yn menywod [sic] yn bwyta tua phum be^l o wair y dydd - y defaid yn cael ce^c hefyd. Oherwydd fod yr heolydd mor anodd fe grasodd y menywod 'ma bump torth o fara yn hytrach na mynd i Lansawel i mofyn bara.” Ar 6 Chwefror yn ol JMJ y “Noson waethaf eto yn Wales 25 main roads blocked Gwynt mawr”
Parhaodd yr heth yn yr un modd, peipiau wedi rhewi, cario dwr a bywyd yn gyffredinol wedi ei droi wyneb i waered tan yr 8 Mawrth pam gofnododd Goronwy Davies “Hoffwn gyfeirio at Fawrth 1962, mae llawer yn cam ddeallt am y gaeaf caled 1963, wrth edrych ar hen Galendr (fyddai hen gyfaill yn ysgrifen[nu] hanes tywydd ar ei gefn) fe pallodd yr rhew ar ol yr 9fed o Fawrth 1963, ond roedd y llywchfeudd eira yn bodoli am wythnosau lawer wedi hynnu.”[4]
Cyfeiriadau
- ↑ Hope-Jones, P. )1964? Effects of hard weather in January and February 1963 on birds of the Newborough district Nature in Wales
- ↑ Perlau'r Pridd: dyddiadur David Lewis Jones (Defi Lango) 2009
- ↑ Tywyddiadur gwefan Prosiect Llên Natur[1]
- ↑ Tywyddiadur gwefan Prosiect Llên Natur[2]