IHE Wiki

Golygu dolenni
Gini
Gweriniaeth Ginil
République de Guinée (Ffrangeg)
𞤖𞤢𞤱𞤼𞤢𞥄𞤲𞤣𞤭 𞤘𞤭𞤲𞤫 (Hawtaandi Gine) (Pulareg)
ArwyddairGwaith, Cyfiawnder, Undod Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasConakry Edit this on Wikidata
Poblogaeth12,717,176 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd2 Hydref 1958 (Annibyniaeth oddi wrth Ffrainc)
5 Medi 2021 (Coup d'état)
AnthemLiberté Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAmadou Bah Oury Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00, Africa/Conakry Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGorllewin Affrica Edit this on Wikidata
GwladGini Edit this on Wikidata
Arwynebedd245,857 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaY Traeth Ifori, Gini Bisaw, Liberia, Mali, Senegal, Sierra Leone Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau10°N 11°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Gini Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethMamady Doumbouya Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Gini Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAmadou Bah Oury Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$16,092 million, $21,228 million Edit this on Wikidata
ArianGuinean franc Edit this on Wikidata
Canran y diwaith2 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant5.013 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.465 Edit this on Wikidata

Gwlad ganolig ei maint ar arfordir Gorllewin Affrica yw Gini (Ffrangeg: Guinée) (Ffrangeg: République de Guinée). Arferid ei galw'n Gini Ffrengig ond, bellach, cyfeirir ati fel Gini Conacri ar lafar (Guinée-Conakry).

Mae'n ffinio â chwech o wledydd: Gini Bisaw a Senegal yn y gogledd, Mali i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, Arfordir Ifori i'r de-ddwyrain, Liberia i'r de, a Sierra Leone i'r gorllewin. Mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn wastadir arfordirol, corsiog mewn mannau, sy'n codi i ucheldiroedd a mynyddoedd. Pobl Fulani a Mandingo yw'r mwyafrif o'r trigolion. Siaradir Ffrangeg ac wyth iaith frodorol. Y brifddinas yw Conakry.

Roedd ei phoblogaeth yn 2016 oddeutu 10.5 miliwn o drigolion.[1] Daeth yn rhydd oddi wrth Ffrainc ar 2 Hydref 1958.

Cyfeiriadau

  1. Central Intelligence Agency (2009). "Guinea". The World Factbook. 2010.