HL7 Wiki

Llun lloeren o Gymru

Lleolir Cymru ar orynys yng ngorllewin Prydain. Mae Cymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae Cymru yn ffinio â Lloegr i'r dwyrain, ac amgylchynir y wlad gan y môr ar yr ochrau arall: Môr Hafren i'r de, Sianel San Siôr i'r de a'r Môr Celtaidd i'r gogledd a rhwng gogledd Cymru ag Iwerddon. Hyd Cymru yw tua 274 km a'i lled tua 100 km. Mae gan y wlad arwynebedd o 20,779 km² (8,023 milltir sgwâr). Mae ganddi dros 1,200 km o arfordir.

Daearyddiaeth Cymru
Daearyddiaeth Cymru

Rhanbarthau Cymru
Tirwedd Cymru
Daeareg Cymru
Hinsawdd Cymru
Hydroleg Cymru
Arfordir Cymru
Coetiroedd Cymru
Demograffeg Cymru


AOHNEau
Moroedd
Ynysoedd
Mynyddoedd
Llynoedd
Afonydd
Cymunedau
Trefi
Siroedd a Dinasoedd


WiciBrosiect Cymru


Tirwedd

Mae'r rhan fwyaf o Gymru yn dir cymharol uchel. Y prif ardaloedd o dir uchel yw mynyddoedd Gwynedd, sy'n cynnwys yr Eryri hanesyddol a'r mynyddoedd i'r de o'r ardal yma, mynyddoedd Elenydd yng nghanolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog yn y de. Yn Eryri y ceir y copaon uchaf, gyda pymtheg copa dros 3,000 o droedfeddi, Y copaon uchaf yw Yr Wyddfa (1,085m/3,560 troedfedd), Carnedd Llywelyn 1,064m/3,491 troedfedd a Carnedd Dafydd (1,044m/3,425 troedfedd).

Arfordir Cymru

Afonydd a llynnoedd

Yr afonydd hwyaf sy'n tarddu yng Nghymru yw Afon Hafren, Afon Gwy ac Afon Dyfrdwy, ond mae'r tair yma yn llifo trwy Loegr yn ogystal â thrwy Gymru. Yr afon hwyaf sydd yng Nghymru yn unig yw Afon Tywi; ymhlith y gweddill mae Afon Wysg, Afon Conwy, Afon Clwyd ac Afon Teifi.

Llynnoedd naturiol mwyaf Cymru yw Llyn Tegid a Llyn Syfaddan. Ceir nifer o gronfeydd dŵr mawr hefyd, yn cynnwys Llyn Trawsfynydd, Llyn Efyrnwy, Llyn Brenig, Llyn Celyn, Llyn Alaw, Llyn Claerwen a Llyn Clywedog.

Demograffeg

Yn ôl Cyfrifiad 2001 yr oedd 2,903,085 o bobl yn byw yng Nghymru, 1,403,782 ohonynt yn wrywod a 1,499,303 yn fenywod; roedd hwn yn gynnydd o 1% ers cyfrifiad 1991. Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio; roedd y cyfartaledd oedran yn 2001 yn 36 o'i gymharu â 34 yn 1981.

Ceir y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn y de-ddwyrain, yn ninasoedd Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe ac yn y Cymoedd.

Rhaniadau gwleidyddol

Crëwyd patrwm o 13 o siroedd yng Nghymru ar ôl Deddf Uno 1536: Sir Fôn, Sir Frycheiniog, Sir Gaernarfon, Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Forgannwg, Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn, Sir Benfro, Sir Faesyfed, a Sir Fynwy. Y rhain ydyw siroedd hanesyddol Cymru. Yn ad-drefnu llywodraeth leol 1974 crëwyd wyth sir weinyddol: Clwyd, Dyfed, Gwent, Gwynedd, Powys, Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg. Erbyn hyn y rhain yw enwau siroedd seremonïol Cymru. Yn 1996 crëwyd 22 o awdurdodau unedol i gymryd lle'r wyth sir weinyddol, a'u henwau yn cynnwys rhai o enwau'r 13 sir hanesyddol a rhai o'r wyth sir weinyddol, a'r ffiniau yn wahanol weithiau. Mae rhai o'r trefi mawrion yn awdurdodau unedol eu hunain e.e. Caerdydd, Abertawe, Wrecsam.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy .