Clinfowiki
Cynnwys
John Adams | |
---|---|
Ffugenw | Novanglus |
Ganwyd | 19 Hydref 1735 (yn y Calendr Iwliaidd) Braintree |
Bu farw | 4 Gorffennaf 1826 Quincy |
Man preswyl | Massachusetts |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd, diplomydd, athronydd gwleidyddol, gwladweinydd, llenor |
Swydd | United States Ambassador to the Netherlands, Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau, llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Deyrnas Unedig, llysgennad yr Unol Daleithiau i Ffrainc, Arlywydd yr Unol Daleithiau, aelod o Dŷ Cynrycholwyr Massachusetts, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau |
Taldra | 170 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Ffederal |
Tad | John Adams, Sr. |
Mam | Susanna Boylston |
Priod | Abigail Adams |
Plant | Abigail Adams Smith, John Quincy Adams, Susanna Adams, Charles Adams, Thomas Boylston Adams, Unknown |
Perthnasau | Henry Adams |
Llinach | Adams family |
Gwobr/au | Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
llofnod | |
John Adams (30 Hydref 1735 - 4 Gorffennaf 1826) oedd ail Arlywydd yr Unol Daleithiau (1797-1801), a thad y chweched Arlywydd, John Quincy Adams. Ef hefyd oedd Is-arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau (1789-1797). Roedd yn frodor o Braintree, Massachusetts ac roedd yn ŵr o dras Gymreig [1]
Siroedd a enwir ar ôl John Adams
Enwir chwe sir yn Swydd Adams (Saesneg: Adams County) ar ôl John Adams, sef:
- Swydd Adams, Idaho
- Swydd Adams, Mississippi
- Swydd Adams, Nebraska
- Swydd Adams, Ohio
- Swydd Adams, Pennsylvania
- Swydd Adams, Washington
Tras Gymreig
Roedd Adams o dras Gymreig; gellir olrhain y dras honno yn ôl i 1422 - i dref Penfro ac i "Fferm Penybanc", Llanboidy, Sir Gaerfyrddin.[2] Ymfudodd dyn o'r enw David Adams o "Fferm Penybanc" (offeiriad gyda'r Eglwys) yn 1675 i America a hanner can mlynedd yn ddiweddarach ganwyd ei or-ŵyr John a ddaeth yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Cyfeiriadau
- ↑ Adams, John yn Eminent Welshmen tud 8 Adalwyd 2 Tachwedd 2014
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 30 Hydref 2015