Clinfowiki
Cynnwys
Ardal ar arfordir gogledd Cymru yn yr Oesoedd Canol oedd Eirias (amrywiad Cymraeg Canol tybiedig: Eiryoes). Ychydig a wyddys amdano gyda sicrwydd ond ymddengys ei bod yn ardal weinyddol o bwys strategol uchel o fewn cantref Rhos. Mae'n cyfateb yn fras i ardal tref Bae Colwyn yn Sir Conwy heddiw. Mae'n goroesi mewn rhai enwau lleoedd, e.e. Parc Eirias. Yn draddodiadol, bu, ynghyd â phlwyf Llysfaen, yn rhan o 'ynys' fach o diriogaeth Sir Gaernarfon wedi ei hamgylchynu â thir Sir Ddinbych nes i'r ffiniau gael eu newid ym 1922.
Ceir y cyfeiriad cynharaf ar glawr mewn dogfen gyfreithiol o tua 1270 a luniwyd ar orchymyn Einion I, Esgob Llanelwy ac a geir yn Llyfr Coch Asaph. Mewn rhestr o bobl atebol i'r gyfraith cyfeirir at ballivus (rhaglaw) a preco (rhingyll) Eiryoes. Mae hynny'n awgrymu bod llys yn y lle, canolfan weinyddol. Does dim lle o'r enw 'Eiryoes' yn y rhan honno o'r Berfeddwlad, ond credir fod 'Eirias' yn ffurf amgen neu ddiweddarach ar yr enw. Treflan (vill) ganoloesol rhwng Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos oedd Eirias.
Yn y 14g, cofnodir deiseb gan Madog Gloddaeth ynglŷn â'i swydd fel rhaglaw Creuddyn gyda bailiwick Penmaen-Llysfaen ac 'Evyas'. Ymddengys mai 'Eirias' a olygir a'i bod, gyda Penmaen-Llysfaen, yn ffurfio ardal arbennig o fewn cantref Rhos a oroesodd fel allglofan o'r Sir Gaernarfon newydd.
Roedd cael swyddogion uchel fel rhagllaw a rhingyll - swyddogion cantrefi fel rheol - ar gyfer uned mor fychan yn eithriad i'r drefn ac mae'n awgrymu statws arbennig. Credir mai pwys strategol yr ardal, sy'n rheoli'r mynediad ar hyd arfordir gogledd Cymru o'r dwyrain, llwybr arferol unrhyw oresgynwr, sy'n gyfrifol am hynny. Mae'n bosibl felly fod hanes Eirias fel uned yn mynd yn ôl i gyfnod cynnar yn hanes teyrnas Gwynedd.
Ffynhonnell
- David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984). Atodiad VII: Eiryoes.