Clinfowiki

Ychwanegu dolenni
Brad
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurSaunders Lewis
CyhoeddwrLlyfrau'r Dryw
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1958
GenreDrama

Drama gan Saunders Lewis yw Brad, a gyhoeddwyd yn 1958. Seiliwyd y ddrama ar ddigwyddiad hanesyddol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, Cynllwyn 20 Gorffennaf, yn 1944, pan geisiodd rhai o swyddogion byddin yr Almaen ladd Adolf Hitler a chipio grym oddi ar y Blaid Natsïaidd. Darlledwyd y ddrama am y tro cyntaf ar Radio'r BBC Home Service ym 1958.

Cyfieithwyd y ddrama i'r Saesneg ag Elwyn Jones a'i darlledu o dan yr enw Treason ym 1959. Addaswyd y ddrama lwyfan [ynghyd â rhanau o'r ddrama 1938] yn ffilm i S4C ym 1994, o dan yr un enw Brad.

Cymeriadau

Y prif gymeriadau yw:

  • Yr Iarlles Else von Dietlof, ysgrifennydd preifat i Lywodraethwr Milwrol Ffrainc
  • Cyrnol Caisar von Hofacker, ar staff y Llywodraethwr, cymeriad hanesyddol
  • Y Cadfridog Heinrich von Stülpnagel, Lywodraethwr Milwrol Ffrainc, cymeriad hanesyddol
  • Y Cadfridog Karl Albrecht, Pennaeth yr S.S. a'r Gestapo yn Ffrainc
  • Cyrnol Hans Otfried Linstow, Pennaeth y Staff ym Mharis, cymeriad hanesyddol
  • Y Cadfridog Blumentritt
  • Y Cad-farsial Gunther von Kluge, Pennaeth Lluoedd Arfog y Gorllewin, cymeriad hanesyddol

Cymeriadau yn yr addasiad i deledu yn Saesneg.

  • Y Cadfridog von Neudeck
  • Cyrnol Caisar von Kahr

Cynyrchiadau nodedig

1950au

Fel nodwyd, darlledwyd y ddrama am y tro cyntaf ar Radio'r BBC Home Service ar y 13 Tachwedd 1958.[1] Cynhyrchydd [cyfarwyddwr] Emyr Humphreys.[2]


Cyfieithwyd y ddrama i'r Saesneg gan Elwyn Jones a'i darlledu ar Radio'r BBC Home Service ar y 9 Mawrth 1959. Cynhyrchydd [cyfarwyddwr] Emyr Humphreys.[2] Cast:

Radio Times yn darlledu Treason 1959

Darlledwyd y ddrama yn Saesneg ar deledu'r BBC ar y 12 Ebrill 1959. Cynhyrchydd [cyfarwyddwr] Emyr Humphreys; cynllunydd Alan Taylor; cast:[2]

Cyfeiriadau

  1. "Gwefan BBC Radio Times". genome.ch.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-10-10.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Search - BBC Programme Index". genome.ch.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-10-10.
Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy .