Clinfowiki
Cynnwys
Gwedd
Am y pêl-droediwr, gweler Gareth Bale.
Am yr Actor, gweler Christian Bale.
Celfyddyd berfformiadol yw bale (Ffrangeg: ballet) sy'n cyfuno cerddoriaeth a dawns i adrodd stori trwy symudiadau'n unig.[1]
Baleoedd enwog
- Les Sylphides (1909) gyda cherddoriaeth gan Frédéric Chopin
- Lebedinoye ozero (Llyn yr Alarch; 1877) gan Pyotr Ilyich Tchaikovsky
- Romeo a Juliet (1938) gan Sergei Prokofiev
- Napoli gan August Bournonville
Cwmniau bale
- Cwmni Bale Awstralia/Australian Ballet Company-Cafodd ei sefydlu yn y flwyddyn 1962 gan J.C Williamson Theatres Ltd. Bellach yn cael ei ystyried yn un o gwmniau bale rhyngwladol gorau'r byd.[2]
- Y Cwmni Bale Brenhinol/The Royal Ballet Company - wedi sefydlu gan y Fonesig NinetteDe Valois, dawnsiwr,coreograffydd ac entrepreneur fel cwmni bychan ac ysgol bale Vic-Wells. Yn 1931 perswadiodd Lilian Baylis i roi cartref parhaol iddo yn Theatr Sadler's Wells yng Ngogledd Llundain.
- Cwmni Bale Bolshoi/The Bolshoi Ballet Company - wedi sefydlu yn 1776. Un o gwmniau bale hynaf y byd o Moscfa, Rwsia
- Bale Opera Paris/Paris Opera Ballet-Sefydlwyd ar 28 Mehefin 1669 yn Paris. Gelwir hefyd yn Salle Le Peletier, yma y creuwyd bale rhamantaidd.
- Teatro La Scala- Cwmni Bale Theatr La Scala yw cwmni bale clasurol cartref Theatr La Scala yn Milan, Yr Eidal. Un or cwmniau hynaf ac uchaf ei barch yn y byd. Mae'r cwmni ei hun yn hŷn na'r theatr.
Cyfeiriadau
- ↑ Ballet, 1911 Encyclopædia Britannica.
- ↑ "Dance Buzz". DanceBuzz (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-22. Cyrchwyd 2019-03-13.