Trends in LIMS
Cynnwys
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 32,590 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Lanark |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 14 km² |
Cyfesurynnau | 55.7892°N 3.9956°W |
Cod SYG | S19000517 |
Cod OS | NS756563 |
Cod post | ML1 |
Tref yn ne yr Alban a phrif ganolfan weinyddol awdurdod unedol Gogledd Swydd Lanark yw Motherwell[1] (Gaeleg: Tobar na Màthar;[2] Sgoteg: Mitherwall). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 30,311. Mae Caerdydd 481.9 km i ffwrdd o Motherwell ac mae Llundain yn 539.5 km. Y ddinas agosaf ydy Glasgow sy'n 18.3 km i ffwrdd.
Arferai Motherwell fod y ganolfan cynhyrchu dur fwyaf yn yr Alban, a chafodd y llysenw Steelopolis. Caeaodd gwaith dur Ravenscraig yn 1992. Mae pencadlys Heddlu Strathclyde yma, ac mae tîm pêl-droed adnabyddus, Motherwell F.C..
Enwogion
- Alexander Gibson (1926-1995), arweinydd cerddorfaol
- Katie Leung (g. 1987), actores
Cyfeiriadau
- ↑ British Place Names; adalwyd 7 Hydref 2019
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2019-10-07 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 7 Hydref 2019