QLIMS Certified Developers’ Program & Inaugural Members
Cynnwys
Map o'r llwythau Baltig, tua'r flwyddyn 1200. Dangosa'r Baltwyr Dwyreiniol mewn lliwiau brown a'r Baltwyr Gorllewinol mewn lliwiau gwyrdd. | |
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol | |
---|---|
Latfia, Lithwania | |
Ieithoedd | |
Ieithoedd Baltig |
Grŵp ethno-ieithyddol Indo-Ewropeaidd yw'r Baltwyr sy'n siarad y ieithoedd Baltig ac sy'n byw yng ngogledd-ddwyrain Ewrop ger Môr y Baltig. Y Latfiaid a'r Lithwaniaid yw'r ddwy genedl Faltig sy'n goroesi.
Ymsefydlodd pobl yn gyntaf ar arfordiroedd de-ddwyrain y Baltig yn yr oes gynhanesyddol, a gellir olrhain y Baltwyr yn ôl i tua 1800 CC. Yn ystod yr Henfyd fe'u galwyd yn Aesti. Defnyddir yr enw "Baltwyr" arnynt ers y 19eg ganrif.[1]
Yn hanesyddol roedd grwpiau eraill o Faltwyr, yn ogystal â'r Latfiaid a'r Lithwaniaid: y Jatfiaid, a gafodd eu cymhathu â'r Lithwaniaid a'r Slafiaid yn y 16g a'r 17g; y Prwsiaid, a gafodd eu cymhathu â'r Almaenwyr yn y 18g; y Cwriaid, a gafodd eu cymhathu â'r Latfiaid yn yr 16g; y Semigaliaid; a'r Seloniaid, a ddiflanodd yn y 14g.[2] Roedd y Baltwyr yn baganiaid ac yn enwog am wrthod Cristnogaeth am amser hir, a ni throdd y Lithwaniaid yn Gristnogion tan 1386.[1]
Er bod Estonia yn un o'r gwledydd Baltig (ynghyd â Latfia a Lithwania), nid yw'r Estoniaid yn Faltwyr. Yn hytrach, Balto-Ffiniaid ydynt.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Mackenzie, John M. Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 291.
- ↑ (Saesneg) Balt (people). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Awst 2014.