Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Zak Carr | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mawrth 1975 |
Bu farw | 17 Hydref 2005 Norfolk |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Chwaraeon |
Seiclwr cystadleuol o Loegr oedd Zak Carr (6 Mawrth 1975 โ 17 Hydref 2005).[1] Ganwyd ef yn Norwich, Norfolk. Pan nad oedd yn ymarfer neu'n rasio roedd yn gweithio fel Swyddog Carchar, roedd yn byw yn Attleborough. Dechreuodd seiclo yn 14 oed gan ymuno รข'i glwb lleol, CC Breckland.[2]
Roedd Carr yn dal recordiau Prydeinig mewn pellterau hir a byr, cystadlodd yn yr Iseldiroedd ym Mhencampwriaethau Ewrop ychydig cyn ei farwolaeth. Bu'n reidio tandem fel peilot ar gyfer reidwyr gydag anabledd, roedd yn debygol y buasai wedi cystadlu ar y tandem yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.[3]
Yn 2003, enwebwyd ef ar gyfer gwobrau chwaraeon "BBC Norfolk Sport".[2]
Bu farw yn Ysbyty Prifysgol Norwich ar รดl cael ei daro gan gar tra'n reidio ei feic ar yr A11 ger Wymondham. Carcharwyd y gyrrwr a'i darodd yn mis Ionawr 2007 am bum mlynedd.[4]