Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Hanes Cymru |
---|
Cynhanes Cymru |
Oes y Celtiaid |
Cyfnod modern cynnar |
Teyrnasoedd |
Rhestr digwyddiadau |
Iaith |
Crefydd |
Llenyddiaeth |
Deddfau pwysig
|
Mytholeg a symbolau |
Hanesyddiaeth |
WiciBrosiect Cymru |
Mae hanes modern Cymru yn cynnwys hanes Cymru ar รดl 1800 tan y presennol.
Yn y cyfnod hwn, bu ymdrech eang i warthnodi'r Gymraeg gan ddefnyddio'r Welsh Not. Mewn ymateb i bryder dyn busnes Cymreig ac aelod San Steffan am anfantais y Cymry o beidio รข allu siarad Saesneg; bu adroddiad y Llyfrau Gleision. Yn yr adroddiad hwn, disgrifiwyd y Gymraeg fel iaith gyda "evil effects". Disgrifiwyd y Cymry fel pobl anfoesol tu hwnt a bu teimladau o gywilydd ymysg y Cymry yn dilyn yr adroddiad. Er gweathaf hyn, bu cyfres o ymatebion chwyrn gan gynnwys y ddrama enwog, Brad y Llyfrau Gleision gan Robert Jones Derfel.[1]
Ganwyd cenedlaetholdeb o'r math amddiffynnol yng Nghymru. Ffurfiwyd sefydliadau cenedlaethol megis Cymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1846, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a Undeb Bedyddwyr Cymru. Daeth Hen Wlad fy Nhadau yn amlwg ac roedd ar ei ffordd at ddod yn anthem genedalethol Cymru.[1] Ar ddiwedd y 19g ffurfiwyd nifer o sefydliadau cenedlaethol eraill; 1861 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru,[2] 1876 - Cymdeithas Bรชl-droed Cymru,[3] 1881 - Undeb Rygbi Cymru[4] ac yn 1893 - Prifysgol Cymru.[5]
Deddf Cau ar y Sul (Cymru) 1881 oedd y ddeddfwriaeth gyntaf i gydnabod statws Cymru ar wahan i Lloegr ers y Deddfau 1536-43 ac erbyn 1889 bu Deddf Addysg Ganolraddol Cymru 1889 a wnaeth hi'n bosib i ffurfio ysgolion uwchradd wladol.[6][1]
Yn Ebrill 1887 sefydlodd Tom Ellis fudiad Cymru Fydd yn Llundain gyda phrif amcan o sefydlu corff deddfu cenedlaethol dros Gymru (ymreolaeth, ond ni awgrymwyd annibyniaeth). Nรดd arall y mudiad oedd sicrhau aelodau seneddol a fyddai'n cynrychioli Cymru'n drwyadl. Yn yr un flwyddyn sefydlwyd Cyngor Cenedlaethol Cymru i gynrychioli'r blaid Rhyddfrydol. Lawnsiwyd gylchgrawn Cymru Fydd yn 1888 o Ddolgellau; yn agos i le bu Tom Ellis yn byw.[7]
Ar ddechrau'r 20g gwelwyd hefyd ffurfiant parhaus nifer o sefydliadau cenedlaethol Cymreig: 1911 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru,[8] 1915 - Gwarchodlu Cymreig,[9] 1919 - Bwrdd Iechyd Cymru,[10] 1920 - Yr Eglwys yng Nghymru ar รดl annibyniaeth yr Eglwys yng Nghymru yn dilyn Deddf Eglwysi Cymru 1914.[11] Ym 1925 sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru; feโi hailenwyd Plaid Cymru yn 1945. Egwyddorion y blaid a ddiffiniwyd yn 1970 oedd (1) hunanlywodraeth i Gymru, (2) diogelu diwylliant, traddodiadau, iaith a sefyllfa economaidd Cymru a (3) sicrhau aelodaeth i wladwriaeth Gymreig hunanlywodraethol yn y Cenhedloedd Unedig.[12]
Ar 1 Hydref 1949, bu rali ym Machynlleth er mwyn hybu Ymgyrch Senedd i Gymru, cyn ei lawnsio'n swyddogol ar 1 Gorffennaf 1950 mewn rali arall yn Llandrindod. Arweiniodd hyn at gyflwyno deiseb 240,652 o enwau i Dลทโr Cyffredin yn 1956. Helpodd yr ymgyrch sefydlu Swyddfa Gymreig ac Ysgrifennydd Gwladol i Gymru. Methodd y refferendwm 1979 ond cafwyd Cynulliad Cenedlaethol yn 1997.[13] Pasiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Trosglwyddodd y ddeddf bwerau o Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r Cynulliad (Senedd Cymru bellach).[14]
Agorwyd adeilad newydd y Senedd ar Ddydd Gwyl Dewi yn 2006. Yn yr un flwyddyn pasiwyd ddeddf yn gwahaniaethu Llywodraaeth Cymru oddi wrth y Cynulliad. Caniataodd y ddeddf i aelodau cynulliad i greu deddfwriaeth sylfaenol am y tro cyntaf.[15]
Yn 2011, pleidleisiodd etholwyr Cymru mewn refferendwm o blaid pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad yn y meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt. Pasiwyd Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a oedd yn cynnwys trethu a benthyca a ddatganolwyd gan Ddeddf Cymru 2014. Roedd Deddf Cymru 2017 yn gwneud y Cynulliad Cenedlaetholo yn rhan barhaol o gyfansoddiad y Deyrnas Unedig. Ar รดl pasio'r Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 newidiwyd enw'r Cynulliad Cenedlaethol i Senedd Cymru.[15]