Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Math | prison island |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Liberation Heritage Route |
Sir | Sir Tref y Penrhyn |
Gwlad | De Affrica |
Arwynebedd | 5.18 km², 475 ha |
Uwch y môr | 17 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 33.805°S 18.37°E |
Cod post | 7400 |
Hyd | 3.2 cilometr |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, National heritage site of South Africa |
Manylion | |
Ynys ger arfordir De Affrica yw Ynys Robben. Saif heb fod ymhell o Dref y Penrhyn.
Bu'r ynys yn lle i gadw carcharorion am bron 400 mlynedd. Fe'i defnyddiwyd gyntaf i'r pwrpas hwn gan y Vereenigde Oost-Indische Compagnie (VOC) o'r Iseldiroedd. Mae'r dyfroedd o'i hamgylch yn oer, ac mae siarcod yn niferus yma, sy'n ei gwneud yn anodd iawn i neb ddianc trwy nofio.
O 1836 hyd 1931, defnyddid Ynys Robben i gadw dioddeffwyr o'r gwahanglwyf. Yn 1959, daeth yn garchar i wrthwynebwyr llywodraeth De Affrica a threfn Apartheid. Y mwyaf adbabyddus o'r carcharorion a gadwyd yma oedd Nelson Mandela; bu arlwydd presennol De Affrica, Jacob Zuma, hefyd yn garcharor yma.
Rhyddhawyd y carcharorion gwleidyddol olaf yn 1991, ac yn 1996 symudwyd y carcharorion oherwydd troseddau anwleidyddol i garcharau eraill. Mae'r ynys yn awr yn gyrchfan i dwristiaid, gyda chyn-garcharorion yn gweithredu fel tywysyddion. Dynodwyd yr ynys yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.