Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Mae tyrbin gwynt yn ddyfais i droi'r ynni cinetig a geir yn y gwynt yn ynni mecanyddol. Defnyddiwyd y felin wynt mor bell yn ôl â 200 C.C.C yn Iran. Os yw'r ynni mecanyddol yma yn cael ei ddefnyddio yn uniongyrchol, er enghraifft i weithio pwmp neu i droi cerrig melin i falu ŷd, gelwir y ddyfais yn felin wynt. Y defnydd mwyaf cyffredin ar dyrbin gwynt heddiw yw i gynhyrchu trydan, a chyda'r pwyslais ar gynhyrchu trydan mewn dulliau nad yw'n ychwanegu at gynhesu byd-eang, mae'r defnydd o'r rhain wedi ehangu yn fawr.
Maent hefyd wedi creu llawer o ddadlau, gyda gwrthwynebiad cyhoeddus mawr i rai o'r cynlluniau mwyaf uchelgeisiol, un ai bod y gwrthwynebwyr yn ystyried eu bod yn difetha harddwch naturiol yr ardal neu am eu bod yn medru lladd cryn nifer o adar. Y duedd yn ddiweddar yw eu lleoli yn y môr yn weddol agos i'r arfordir. Cynllun o'r fath yw fferm wynt arfaethedig Gwynt y Môr, oddi ar arfordir gogledd Cymru, sydd wedi ennyn ymateb beirniadol a gwrthwynebiad ffyrnig gan rai.
Dau fath sydd mewn gwirionedd: yr echel llorweddol a'r echel fertig, ond ceir dau fath fertig, sef y VAWT Savonius, HAWT tal a'r VAWT Darrieus. Y math fertig ydy'r math hynaf a'r mwyaf poblogaidd, bellach.
Mae gan yr Enercon E-126 y gallu i greu 7.58 MW, o drydan; mae'n 198 m (650 tr) o uchder gyda diamedr o 126 m (413 tr). Hwn ydy'r tyrbin cryfaf yn y byd. Fe'i lansiwyd yn 2007.
Defnyddiodd James Blyth felin wynt fertig i greu trydan ar gyfer ei dy haf yn yr Alban yn 1891.