Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Enghraifft o'r canlynol | Tour de France |
---|---|
Rhan o | 2007 UCI ProTour |
Dechreuwyd | 7 Gorffennaf 2007 |
Daeth i ben | 29 Gorffennaf 2007 |
Rhagflaenwyd gan | Tour de France 2006 |
Olynwyd gan | Tour de France 2008 |
Yn cynnwys | 2007 Tour de France, Prologue, 2007 Tour de France, Stage 1, 2007 Tour de France, Stage 2, 2007 Tour de France, Stage 3, 2007 Tour de France, Stage 4, 2007 Tour de France, Stage 5, 2007 Tour de France, Stage 6, 2007 Tour de France, Stage 7, 2007 Tour de France, Stage 8, 2007 Tour de France, Stage 9, 2007 Tour de France, Stage 10, 2007 Tour de France, Stage 11, 2007 Tour de France, Stage 12, 2007 Tour de France, Stage 13, 2007 Tour de France, Stage 14, 2007 Tour de France, Stage 15, 2007 Tour de France, Stage 16, 2007 Tour de France, Stage 17, 2007 Tour de France, Stage 18, 2007 Tour de France, Stage 19, 2007 Tour de France, Stage 20 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tour de France 2007 oedd y 94ydd rhifyn o'r Tour de France. Cynhaliwyd rhwng 7 Gorffennaf a 29 Gorffennaf 2007. Dechreuodd gyda prologue yn Llundain, gan orffen yn ei leoliad traddodiadol o amgylch yr Arc de Triomphe a lawr y Champs-รlysรฉes ym Mharis. Teithiodd y ras drwy Wlad Belg a Sbaen yn ogystal รข Lloegr. Y reidiwr o Sbaen, Alberto Contador a enillodd y ras.
Datganwyd y byddai'r ras yn dechrau yn Llundain gan drefnwyr y Tour a Maer Llundain, Ken Livingstone, ar 24 Ionawr 2006. Dywedodd Livingstone y byddai'r ddau gymal yn Llundain yn coffau dioddefwyr bomiau Llundain 7 Gorffennaf 2005: "Having the Grand Dรฉpart on the seventh of July will broadcast to the world that terrorism does not shake our city."
Cafodd llwybrau'r Prologue a'r cymal gyntaf drwy Caint i Caergaint eu datgan ar 9 Chwefror 2006 yng Nghanolfan Cynhadledd y Frenhines Elisabeth II. Dyma oedd y drydedd tro i'r Tour ymweld รข Lloegr, ar รดl iddi fynd trwy Plymouth yn 1974 a Chaint, Sussex a Hampshire yn 1994).
Dadorchuddwyd llwybr gyfan ras 2007 gan gyfarwyddwr y Tour, Christian Prudhomme ym Mharis ar 26 Hydref 2006. Roedd y ras yn gyfanswm o 3,569.9 cilomedr (2,218.2 milltir).[1]
Cafodd y Tour ei amharu gan ymrysonau cyffuriau, gyda thri reidiwr a thri tรฎm yn tynnu allan o'r ras ar รดl profion cyffuriau positif, gan gynnwys y ffefryn cyn y ras, Alexandre Vinokourov a'i dรฎm Astana. Yn dilyn cymal 16, cafodd gwisgwr y Crys Melyn, Michael Rasmussen, ei dynnu allan o'r Tour gan ei dรฎm Rabobank, a oedd yn ei gyhuddo o ddweud celwydd ynglลทn รข pham fethodd sawl prawf cyffuriau yn gynt yn y flwyddyn.
Enillodd Tom Boonen y Crys Gwyrdd ar gyfer cystadleuaeth pwyntiau'r sbrintwyr am y tro cyntaf, wedi iddo fethu a cwblhau'r ras a thynnu allan yn 2005 a 2006 tra roedd yn arwain y gystadleuaeth bwyntiau. Gwobrwywyd y Crys Dot Polcai'r dringwr gorau, Mauricio Soler, y tro cyntaf iddo gystadlu yn y Tour.
Enillwyd y Crys Melyn, a roddir i'r arweinydd cyffredinol, gan Alberto Contador. Roedd yn ras agos iawn hyd y treial amser yng nghymal 19, a daeth Cadel Evans yn ail, a Levi Leipheimer yn drydydd, gyda'r tri ond 31 eiliad arwahan, y gwahaniaeth lleiaf erioed. Enillodd Alberto Contador y Crys Gwyn hefyd, gan mai ef oedd y reidiwr ifanc gorau (o dan 25).
Cymal | Dyddiad | Dechrau - Gorffen | Pellter | Math | |
---|---|---|---|---|---|
P | 7 Gorffennaf | London | 7.9 km | Treial Amser Unigol | |
1 | 8 Gorffennaf | London - Caergaint | 203 km | Cymal Gwastad | |
2 | 9 Gorffennaf | Dunkirk - Ghent | 168.5 km | Cymal Gwastad | |
3 | 10 Gorffennaf | Waregem - Compiรจgne | 236.5 km | Cymal Gwastad | |
4 | 11 Gorffennaf | Villers-Cotterรชts - Joigny | 193 km | Cymal Gwastad | |
5 | 12 Gorffennaf | Chablis - Autun | 182.5 km | Cymal Trawsnewid | |
6 | 13 Gorffennaf | Semur-en-Auxois - Bourg-en-Bresse | 199.5 km | Cymal Gwastad | |
7 | 14 Gorffennaf | Bourg-en-Bresse - Le Grand-Bornand | 197.5 km | Cymal Mynyddig | |
8 | 15 Gorffennaf | Le Grand-Bornand - Tignes | 165 km | Cymal Mynyddig | |
G | 16 Gorffennaf | Diwrnod Gorffwys | |||
9 | 17 Gorffennaf | Val-d'Isรจre - Brianรงon | 159.5 km | Cymal Mynyddig | |
10 | 18 Gorffennaf | Tallard - Marseille | 229.5 km | Cymal Gwastad | |
11 | 19 Gorffennaf | Marseille - Montpellier | 182.5 km | Cymal Gwastad | |
12 | 20 Gorffennaf | Montpellier - Castres | 178.5 km | Transition Cymal | |
13 | 21 Gorffennaf | Albi | 54 km | Treial Amser Unigol | |
14 | 22 Gorffennaf | Mazamet - Plateau-de-Beille | 197 km | Cymal Mynyddig | |
15 | 23 Gorffennaf | Foix - Loudenvielle | 196 km | Cymal Mynyddig | |
G | 24 Gorffennaf | Diwrnod Gorffwys | |||
16 | 25 Gorffennaf | Orthez - Gourette-Col d'Aubisque | 218.5 km | Cymal Mynyddig | |
17 | 26 Gorffennaf | Pau - Castelsarrasin | 188.5 km | Transition Cymal | |
18 | 27 Gorffennaf | Cahors - Angoulรชme | 211 km | Cymal Gwastad | |
19 | 28 Gorffennaf | Cognac - Angoulรชme | 55.5 km | Treial Amser Unigol | |
20 | 29 Gorffennaf | Marcoussis - Paris Champs-รlysรฉes | 146 km | Cymal Gwastad | |
Cyfanswm | 3,569.9 km |
Crys Melyn | Crys Gwyrdd | Crys Dot Polca | Crys Gwyn | Gwobr Brwydrol