Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Tom Cruise | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Tom Cruise ![]() |
Ganwyd | Thomas Cruise Mapother IV ![]() 3 Gorffennaf 1962 ![]() Syracuse ![]() |
Man preswyl | Beacon Hill, Los Angeles ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, hedfanwr, perfformiwr stỳnt, actor, llenor, cynhyrchydd, cyfarwyddwr ![]() |
Taldra | 170 centimetr ![]() |
Tad | Thomas Cruise Mapother III ![]() |
Mam | Mary Lee Pfeiffer ![]() |
Priod | Mimi Rogers, Nicole Kidman, Katie Holmes ![]() |
Partner | Rebecca De Mornay, Penélope Cruz ![]() |
Plant | Suri Cruise, Isabella Jane Cruise, Connor Cruise ![]() |
Perthnasau | William Mapother ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, IAS Freedom Medal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Saturn am Actor Gorau, Honorary Palme d'Or, Satellite Award for Best Actor in a Musical or Comedy, Golden Globes, Palme d'Or, Gwobr Saturn, Critics' Choice Movie Award, chevalier des Arts et des Lettres ![]() |
Gwefan | http://www.tomcruise.com ![]() |
llofnod | |
![]() |
Mae Tom Cruise[1] (ganed Thomas Cruise Mapother IV; 3 Gorffennaf 1962) yn actor a gwneuthurwr ffilmiau Americanaidd. Yn ôl y cylchgrawn Forbes, ef yw'r seren enwocaf a mwyaf dylanwadol yn y byd.
Dechreuodd ei yrfa actio'n 19 mlwydd oed gyda'r ffilm Endless Love yn 1981. Ar ôl rolau cefnogol yn Taps (1981) a The Outsiders (1983), cafodd ei brif rôl gyntaf yn y comedi rhamantaidd Risky Business a ryddhawyd ym mis Awst 1983.
Daeth i amlygrwydd ar ôl serennu fel Pete "Maverick" Mitchell yn y ffilm ddrama acsiwn Top Gun (1986). Ers 1996, fe'i adnabyddir ar gyfer ei rôl fel Ethan Hunt yn y ffilmiau Mission: Impossible, a'r ffilm fwyaf diweddar yn y gyfres yw Mission: Impossible - Fallout a ryddhawyd yn 2018.
Ers 1990, mae Cruise wedi bod yn gysylltiedig â'r corff o gredoau ac ymarferion crefyddol Seientoleg.
Ganwyd Cruise yn Syracuse, Efrog Newydd yn fab i Mary Lee (yn gynt Pfeiffer), athrawes addysg arbennig, a Thomas Cruise Mapother III (1934-84)[2], peiriannydd trydanol.[3] Mae'n frawd i dair chwaer Mary Lee, Marian a Cass. Mae ganddo linach Gwyddelig,[4]Almaenaidd a Seisnig.[5]
Magwyd Cruise yn dlawd o fewn magwraeth Gatholig. Cam-driniwyd ef a'i deulu gan y tad ac y mae wedi'i ddisgrifio fel "a merchant of chaos."[6] Yn ôl Cruise, roedd ei dad yn fwli ac yn gachadur, a chafodd ei guro ganddo.
He was the kind of person where, if something goes wrong, they kick you. It was a great lesson in my life—how he'd lull you in, make you feel safe and then, bang! For me, it was like, 'There's something wrong with this guy. Don't trust him. Be careful around him.'[6]
Symudodd y teulu i Ottawa, Canada yn 1971 er mwyn i'r tad gymryd swydd yn gweithio fel ymgynghorydd amddiffyn gyda'r Lluoedd Arfog yn y wlad.[7] Ar ôl cyfnod yng Nghanada, gadawodd y fam y tad gan fynd â'r plant gyda hi'n ôl i'r Unol Daleithiau.[7] Yn nes ymlaen, bu farw ei dad o ganser.[8]
Am gyfnod byr, mynychodd coleg offeiriadol Ffransisgaidd yn Cincinnati ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan yr eglwys gyda'r uchelgais o hyfforddi fel offeiriad.[9] Yn ei flwyddyn olaf chwaraeodd pêl-droed i dîm y coleg cyn cael ei ddiarddel o'r sgwad ar ôl iddo gael ei ddal yn yfed cwrw cyn gêm.[10][11]
Trwy ei fywyd, mynychodd Cruise 15 ysgol dros 14 o flynyddoedd.[12]
Un o'r sêr ffilmiau mwyaf yn Hollywood[13][14], dechreuodd yrfa actio Cruise yn 19 mlwydd oed gyda'r ffilm Endless Love yn 1981. Serennodd mewn nifer o ffilmiau llwyddiannus yn yr 1980au, gan gynnwys y ffilmiau drama The Color of Money (1986), Cocktail (1988), Rain Man (1988), a Born on the Fourth of July (1989).
Yn yr 1990au, serennodd mewn llawer o ffilmiau llwyddiannus eto, gan gynnwys y ffilm rhamantaidd Far and Away (1992), y ffilm ddrama A Few Good Men (1992), y ffilm gyffrous The Firm (1993) y ffilm rhamantaidd arswydus Interview with the Vampire: The Vampire Chronicles (1994), y comedi-ddrama rhamantaidd Jerry Maguire (1996), y ffilm gyffrous erotig Eyes Wide Shut, a'r ffilm ddrama Magnolia (y ddwy yn 1999).
Yn y 2000au, serennodd Cruise mewn nifer o ffilmiau llwyddiannus eraill, gan gynnwys y ffilmiau gyffrous ffuglen wyddonol Vanilla Sky (2001) a Minority Report (2002), y ffilm ryfel The Last Samurai (2003), y ffilm drosedd Collateral (2004), y ffilm drychineb ffuglen wyddonol War of the Worlds (2005), y ffilm ddrama ryfel Lions for Lambs (2007), y ffilm gyffrous hanesyddol Valkyrie (2008), a'r comedi acsiwn Knight and Day (2010). Yn 2012, serennodd yn y ffilm gyffrous Jack Reacher, y ffilm ffuglen wyddonol ôl-apocalyptaidd Oblivion (2013), a'r ffilm ffuglen wyddonol filwrol Edge of Tomorrow (2014). Yn 2016 ailgydiodd yn ei rôl fel Jack Reacher yn y ffilm Jack Reacher: Never Go Back.
Yn 2017, serennodd Cruise mewn adfywiad o'r gyfres ffilmiau The Mummy a seiliwyd ar ffilm arswyd 1932 Boris Karloff.[15] Yn 2018, ailgydiodd yn ei rôl fel Ethan Hunt eto yn Mission: Impossible - Fallout, y chweched ffilm yn y gyfres.
Yn 2012, Cruise oedd yr actor gyda'r tâl uchaf yn Hollywood.[16] Enillodd 16 o'i ffilmiau dros $100 miliwn yn yr Unol Daleithiau, ac enillodd 22 dros $200 miliwn yn fyd-eang.[17]
Mae Cruise wedi ennill Gwobrau Glôb Aur ar gyfer y Perfformiad Gorau gan Actor mewn Ffilm Ddrama yn 1990 ar gyfer Born on the Fourth of July; Perfformiad Gorau gan Actor mewn Ffilm Gomedi/Gerdd yn 1997 ar gyfer Jerry Maguire; a'r Perfformiad Gorau gan Actor mewn Rôl Gefnogol mewn Ffilm yn 2000 ar gyfer Magnolia. Yn 2002, enillodd Cruise Wobr Saturn ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer Vanilla Sky, ac yn 2003 enillodd Wobr AFI ar gyfer Ffilm y Flwyddyn ar gyfer The Last Samurai a Gwobr Empire ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer Minority Report.
Mae Cruise hefyd wedi derbyn tri enwebiad Gwobr yr Academi, ar gyfer Born on the Fourth of July, Jerry Maguire a Magnolia.
Cafodd Cruise berthynas gyda'i gyd-seren Risky Business Rebecca De Mornay (1983-1985),[18][19] yn ogystal â chanlyn y gantores ac actores Cher, hefyd yn 1985.[20]
Mae Cruise wedi bod yn briod ac wedi ysgaru tair gwaith. Priododd yr actoresau Mimi Rogers (yn briod 1987-1990),[21] Nicole Kidman(yn briod 1990-2001)[22] a Katie Holmes (yn briod 2006 - 2012).[23][24] Yn ogystal â'r priodasau hyn, cafodd berthynas gyda'r actores Penélope Cruz (2001-2004) ar ôl y briodas i Kidman, ond cyn y briodas i Holmes.[25]
Mae gan Cruise dri o blant, dau fabwysiedig ac un biolegol. Mabwysadiodd ferch gyda Kidman o'r enw Isabella yn 1992 a mab o'r enw Connor yn 1995. Gyda Holmes, cafodd un ferch o'r enw Suri, a fe'i ganwyd yn 2006.[26]
Yn ystod ei berthynas gyda Mimi Rogers, daeth Cruise yn rhan, ac yn hwyrach, yn ddadleuwr brwd dros yr Eglwys Seientoleg a'i rhaglenni cymdeithasol cysylltiedig.[21] Wedi brwydr gyda dyslecsia o oedran ifanc, mae Cruise wedi dweud bod Seientoleg, yn enwedig cymorth Study Tech L. Ron Hubbard, wedi'i helpu goresgyn y cyflwr.
Yn fwy diweddar, taniwyd sawl dadl oherwydd barn Cruise tuag at Seientoleg, gan gynnwys siarad yn erbyn seiciatreg a chyffuriau gwrthiselder a siaradodd yn benodol yn erbyn yr actores Brooke Shields a'i defnydd o'r cyffur paroxetine. Ymatebodd yr actores, gan ddweud "[Cruise] should stick to saving the world from aliens and let women who are experiencing postpartum depression decide what treatment options are best for them."[27]
Cododd Cruise arian i Downtown Medical er mwyn iddynt gynnig therapi dadwenwyno i weithwyr achub 9/11 ar sail gwaith L. Ron Hubbard. Derbyniodd hyn feirniadaeth gan feddygon[28] a diffoddwyr tân.[29] Sbardunodd ddadlau ar ôl ei ymddangosiad mewn fideo YouTube sy'n hybu Seientoleg.[30]
Yn ogystal â hyn, y mae wedi ymdrechu hybu'r crefydd ac i sicrhau ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth yn Ewrop. Yn 2005, datgelodd Cyngor Dinas Paris bod Cruise wedi lobio swyddogion Nicolas Sarkozy a Jean-Claude Gaudin, sydd wedi mynd yn eu blaenau i'w ddisgrifio fel llefarydd milwriaethus dros Seientoleg, ac wedi gwrthod delio ag ef yn dyfodol.[31][32]
Crëwyd a chyflwynwyd y Fedal Ryddid Seientoleg ar gyfer Dewrder i Cruise gan arweinydd y mudiad David Miscavige yn 2004.[33]
Teitl | Blwyddyn | Rôl | Cyfarwyddwr | Nodiadau | Cyfeiriad(au) |
---|---|---|---|---|---|
Endless Love | 1981 | Billy | Franco Zeffirelli | [34] | |
Taps | 1981 | David Shawn | Harold Becker | [35] | |
The Outsiders | 1983 | Francis Ford Coppola | [36] | ||
Losin' It | 1983 | Woody | Curtis Hanson | [37] | |
Risky Business | 1983 | Joel Goodson | Paul Brickman | [38] | |
All the Right Moves | 1983 | Stefen Djordjevic | Michael Chapman | [39] | |
Legend | 1985 | Jack | Ridley Scott | [40] | |
Top Gun | 1986 | Lt. Pete "Maverick" Mitchell | Tony Scott | [41] | |
The Color of Money | 1986 | Vincent Lauria | Martin Scorsese | [42] | |
Cocktail | 1988 | Brian Flanagan | Roger Donaldson | [43] | |
Rain Man | 1988 | Charlie Babbitt |
Barry Levinson |
[44] | |
Born on the Fourth of July | 1989 | Ron Kovic | Oliver Stone | [45] | |
Days of Thunder | 1990 | Cole Trickle | Tony Scott | Hefyd yn ysgrifennwr (stori) | [46][47] |
Far and Away | 1992 | Joseph Donelly | Ron Howard | [48] | |
A Few Good Men | 1992 | Lt. Daniel Kaffee | Rob Reiner | [49] | |
The Firm | 1993 | Mitch McDeere | Sydney Pollack | [50] | |
Interview with the Vampire | 1994 | Lestat de Lioncourt | Neil Jordan | [51] | |
Mission: Impossible | 1996 | Ethan Hunt | Brian De Palma | Hefyd yn gynhyrchydd | [52] |
Jerry Maguire | 1996 | Jerry Maguire | Cameron Crowe | [53] | |
Without Limits | 1998 | — | Robert Towne | Cynhyrchydd | [54] |
Eyes Wide Shut | 1999 | William Harford | Stanley Kubrick | [55] | |
Magnolia | 1999 | Frank T. J. Mackey | Paul Thomas Anderson | [56] | |
Mission: Impossible II | 2000 | Ethan Hunt | John Woo | Hefyd yn gynhyrchydd | [57][58] |
Stanley Kubrick: A Life in Pictures | 2001 | Adroddwr | Jan Harlan | [59] | |
The Others | 2001 | — | Alejandro Amenábar | Uwch-gynhyrchydd | [60] |
Vanilla Sky | 2001 | David Aames | Cameron Crowe | Hefyd yn gynhyrchydd | [61] |
Space Station 3D | 2002 | Toni Myers | Adroddwr | [62] | |
Minority Report | 2002 | John Anderton | Steven Spielberg | [63] | |
Austin Powers in Goldmember | 2002 | Ei hun fel Austin Powers | Jay Roach | Cameo | [64] |
Narc | 2002 | — | Joe Carnahan | Uwch-gynhyrchydd | [65] |
Shattered Glass | 2003 | — | Billy Ray | Uwch-gynhyrchydd | [66] |
The Last Samurai | 2003 | Nathan Algren | Edward Zwick | Hefyd yn gynhyrchydd | [67][68] |
Collateral | 2004 | Vincent | Michael Mann | [69] | |
War of the Worlds | 2005 | Ray Ferrier | Steven Spielberg | [70] | |
Elizabethtown | 2005 | — | Cameron Crowe | Cynhyrchydd | [71] |
Ask the Dust | 2006 | — | Robert Towne | Cynhyrchydd | [72] |
Mission: Impossible III | 2006 | Ethan Hunt | J. J. Abrams | Hefyd yn gynhyrchydd | [73] |
Lions for Lambs | 2007 | Y Seneddwr Jasper Irving | Robert Redford | [74] | |
Tropic Thunder | 2008 | Les Grossman | Ben Stiller | [75] | |
Valkyrie | 2008 | Claus von Stauffenberg | Bryan Singer | [76] | |
Knight and Day | 2010 | Roy Miller | James Mangold | [77] | |
Mission: Impossible – Ghost Protocol | 2011 | Ethan Hunt | Brad Bird | Hefyd yn gynhyrchydd | [78] |
Rock of Ages | 2012 | Stacee Jaxx | Adam Shankman | Fe'i gredydwyd ar drac sain y ffilm: "Paradise City" "Wanted Dead or Alive" "I Want To Know What Love Is" "Pour Some Sugar On Me" "Here I Go Again" "Every Rose Has Its Thorn" "Rock You Like A Hurricane" "Don't Stop Believin" |
[79][80] |
Jack Reacher | 2012 | Jack Reacher | Christopher McQuarrie | Hefyd yn gynhyrchydd | [81] |
Oblivion | 2013 | Jack Harper | Joseph Kosinski | [82] | |
Edge of Tomorrow | 2014 | Maj. William Cage | Doug Liman | [83] | |
Mission: Impossible – Rogue Nation | 2015 | Ethan Hunt | Christopher McQuarrie | Hefyd yn gynhyrchydd | [84] |
Jack Reacher: Never Go Back | 2016 | Jack Reacher | Edward Zwick | Hefyd yn gynhyrchydd | [85] |
The Mummy | 2017 | Nick Morton | Alex Kurtzman | [86] | |
American Made | 2017 | Barry Seal | Doug Liman | [87] | |
Mission Impossible - Fallout | 2018 | Ethan Hunt | Christopher McQuarrie | Hefyd yn gynhyrchydd | [88] |
Top Gun: Maverick | 2019 | Pete "Maverick" Mitchell | Joseph Kosinski | Ffilmio; hefyd yn gynhyrchydd | [89] |
Teitl | Blwyddyn | Rôl | Sianel | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
Fallen Angels | 1993 | — | Showtime | Pennod: "The Frightening Frammis" (director)[90] |
Preacher | 2016 | Gohebydd | AMC | Peilot[91][92] |
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|date=
(help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)