Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Math | llosgfynydd, tirnod |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Teide National Park |
Sir | Talaith Santa Cruz de Tenerife |
Gwlad | Sbaen |
Uwch y môr | 3,715 metr |
Cyfesurynnau | 28.27264°N 16.64361°W |
Amlygrwydd | 3,715 metr |
Deunydd | basalt, phonolite, trachybasalt |
Llosgfynydd ar ynys Tenerife yn yr Ynysoedd Dedwydd (Canarias) yw Teide (hefyd Pico de Teide, Echeyde). Dyma fynydd uchaf Sbaen, gydag uchder o 3718 medr, a thrydydd llosgfynydd uchaf y byd: ar ôl Mauna Loa a Mauna Kea yn Hawaii. Fe ffrwydrodd ddiwethaf ym 1909.
Mae'r llosgfynydd a'r ardal gyfagos wedi eu cofrestru fel Safle Treftadaeth y Byd, ers 29 Mehefin 2007. Mae gan y safle arwynebedd o 18,900 hectar (100 milltir sgwâr).[1] Dyma un o Safleodd Treftadaeth mwyaf poblogaidd y byd gyda 2.8 miliwn o dwristiaid yn ymweld â'r lle'n flynyddol.