Knowledge Base Wiki

Search for LIMS content across all our Wiki Knowledge Bases.

Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.

Archifo

Rhaid mynd trwy'd caffi, i weld pa eitemau sy'n dal yn "agored" ac i archifio'r hen eitemau. Oes gwirfoddolwyr? Alan 13:38, 29 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Mae hi wedi mynd yn dudalen anferth. Dwi wedi symud y drafodaeth ar Amlygrwydd i'r archif a chreu tudalen cymorth (eginyn!) 'Wicipedia:Amlygrwydd' a rhoi'r drafodaeth yno hefyd. Dwi'n cynnig hefyd symud y drafodaeth hir - a buddiol - ar ennill nawdd/cefnogaeth/hyrwyddo'r wicipedia Cymraeg i dudalen newydd 'Wicipedia:Y Caffi/Hyrwyddo' a gadael nodyn amlwg ar ddiwedd y testun agoriadol yn y caffi fel dolen iddi, fel wnes i awgrymu yn y Caffi (roedd Llywelyn yn cytuno). Ydy hynny'n swnio fel syniad da i ti? Neu oes 'na rywle gwell i'w rhoi hi? Anatiomaros 22:20, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Pwrpas Y Caffi

Oherwydd bod gennym Wicipedia:Y Ddesg Gyfeirio bellach, dwi'n meddwl dylwn osgoi gofyn cwestiynau "pitw" yn y Caffi ei hun, gan eu symud i'r adran berthnasol o'r Ddesg Gyfeirio. Beth ydych chi'n meddwl? -- Xxglennxx โ˜…sgwrscyfraniadauโ˜… 15:09, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Dwi ddim yn gweld fod llawer o broblem achos does dim llawer o gyfranwyr a bydd cyfranwyr newydd yn debyg o ofyn cwestiynau "pitw" yn y Caffi beth bynnag. Eu cyfeirio nhw at y dudalen newydd sydd orau. Diolch am y gwaith ar y dudalen honno hefyd. (Mae angen cael y categoriau hefyd - falle gwneiff rhai symlach y tro am rwan?) Anatiomaros 22:56, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Gyda llaw, Glenn, ble yn union mae'r nodyn sy'n creu'r dudalen gen ti? Methu cael hyd iddo. Fedra'i ddim ychwanegu/golygu categori heb hynny (dwi'n awgrymu rhoi 'Categori:Cymorth' am rwan, pe bai mond iddo fod rhywle...). Anatiomaros 23:01, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dyna beth dwi'n ei olygu - cyfeirio nhw at y Ddesg Gyfeirio gan ddweud symudir y neges iddi. Pa nodyn wyt ti'n ei olygu? -- Xxglennxx โ˜…sgwrscyfraniadauโ˜… 00:05, 2 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Ahhhh, iawn, nawr dwi'n deall yr hyn rwyt yn ei ddweud! Mae'r nodyn ar gael ar รดl y blaen slaes yn y prif gyfeiriad llawn. Os wyt ti'n mynd i mewn i'r tudalen, fe welet ti {{/Pennawd y Ddesg}}. Mae'r blaen slaes yn golygu bod y nodyn ar รดl y prif nodyn, os wyt ti'n deall. Yn y bar cyfeiriad, rhaid rhoi'r cyfeiriad llawn - Wicipedia:Y_Ddesg_Gyfeirio/Pennawd y Ddesg - ti'n gallu ei olygo o fa'na. Mae'n beth da i'w wneud fel hyn, oherwydd pan fo fandaliaid yn ceisio ei fandaleiddio, bydd yn eu stympio! Hefyd, dyw pobl ddim yn gallu chwarae ar hap efo fe fel hyn. Mae'r mwyafrif o'r nodiadau fy mod yn eu creu yn dilyn yr un patrwm "cuddio." -- Xxglennxx โ˜…sgwrscyfraniadauโ˜… 12:18, 2 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n gweld rwan. Syniad da, ond cofia fod angen i bobl eraill (fel fi!) gael hyd iddynt weithiau hefyd. Dwi wedi rhoi'r dudalen yn y categori cyffredinol 'Cymorth' am rwan. Anatiomaros 14:38, 2 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Rhai pethe'n gyfoes

Mae rhai o'r sgyrsiau hyn yn gyfoes, eraill yn werth eu harchifo. Mae angen gwahaniaethu rhwng y ddau, dw i'n credu. Galwad ydy hwn ar bwy bynnag sy'n archifo nesaf i wahaniaethu rhwng y pethau tros-dro a'r pethau tragywydd! Llywelyn2000 06:03, 22 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]

Ro'n i o dan yr argraff mai archifo popeth yd'r drefn/norm (a'r peth hawsaf - sut byddai barnu beth sy dros-dro a beth sy ddim?), a bod hi fyny i bobl chwilio am bynciau i weld os tradodwyd nhw o'r blaen. Er, ella dylid nodi hyn ar dop y dudalen, ac esbonio ffordd hawdd o wneud hyn (achos d wi ddimyn siwr sut i chwilio drwy archifau fy hunan). --Ben Bore 12:31, 22 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]
Ia dyna'r norm, dw i'n cytuno. Meddwl am welliant ydw i fel bod y pethe da ni'n dal i drafod yn aros, neu mae nhw'n mynd ar goll. Er enghraifft, mae'r llinyn Nodyn_Angen_cywiro_iaith_yn_Nodyn:Self_a_Delwedd mor effemeral รข Kleenex: bron na ddylir ei archifo gynted ag y gorffennodd y trafodaeth.
Ar y llaw arall, mae Wicipedia_ar_ffonau_symudol yn mynd i gael ei ddefnyddio fwy-fwy yn ystod y flwyddyn nesaf, am wn i. Felly hefyd Cyfarwyddiadau_sut_i_weld_holl_luniau_John_Thomas. Ac mae gen i frith go i rai llinynau gael eu cadw'r tro diwethaf, wst ti. Dim ond syniad. Mi fyddai'n ddefnyddiol, a chydig ydyn nhw. Llywelyn2000 22:43, 22 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]
Mewn fforymau mae gen to Adran ar y top, fel arfer, o'r enw "Sticky" ble ceir Llinynau parhaol i gwestiynau sy'n codi'n aml. Llywelyn2000 06:53, 25 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]

Ail-wampio

Rwyf wedi newid y deunydd ar ben y dudalen ychydig. Gobeithiaf bod hyn yn plesio. โ€”Adda'r Yw (sgwrs ยท cyfraniadau) 10:58, 6 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]

Hi. I can see that cyWP uses the link http://cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ about 9300 times (special:linksearch/*.cymdeithasedwardllwyd.org.uk) and it is dead, and has been replaced with https://cymdeithasedwardllwyd.cymru/ I am presuming that you have someone who can run a bot through to update however, if you need a hand then I can probably pull in one of my bot accounts. Billinghurst (sgwrs) 12:27, 21 Chwefror 2021 (UTC)[ateb]

@Billinghurst: Many thanks for the heads up. On the job now. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:16, 24 Chwefror 2021 (UTC)[ateb]

Nodyn ar gyfer Gwybodaeth bellach

Odi fe'n bosib i rywun wneud nodyn ar gyfer gwybodaeth bellach fel y mae un yn Saesneg (template:further)? LandmarkFilly54 (sgwrs) 10:45, 7 Medi 2022 (UTC)[ateb]