Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Rhwydweithio cymdeithasol yw'r weithred neu'r gwasanaeth ble gwelir adeiladu cymuned o bobl sy'n gyfeillion neu sy'n rhannu'r un diddordebau neu gysylltiadau.
Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau rhwydweithio cymdeithasol yn cynnig sawl ffordd o rydweithio, megis ebost a negesau ennyd ond mae wedi'i sefydlu ar y we. Mae'r unigolyn yn creu ac yn adeiladu ei broffil cyhoeddus ei hun ac yn creu rhestr o ddefnyddwyr y gellir rhannu cysylltiadau gyda nhw.
Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn amrywiol eu natur a cheisiant ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i hwyluso'r cyfathrebu rhwng y defnyddwyr e.e. cysylltu dros y ffôn llaw, rhannu ffeiliau megis lluniau, fideo neu flogio.[1]