Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Rhwydwaith Haqqani | |
---|---|
Cyfranogwr yn Rhyfeloedd Affganistan a Rhyfel Wasiristan | |
Yn weithredol | c. 1980[1] – presennol |
Idioleg | Deobandi (ffurf ar ffwndamentaliaeth Islamaidd) |
Grwpiau | Zadran (llwyth Pashtun)[2][3][4][5] |
Arweinwyr | Jalaluddin Haqqani (o bosib yn farw) Sirajuddin Haqqani |
Maes gweithredol | Affganistan, Pacistan |
Cryfder | 4,000–15,000[1][6][7] |
Cynghreiriaid | Taliban[1][8][9][10] al-Qaeda |
Gwrthwynebwyr | Gwrthwynebwyr
Gweriniaeth Islamaidd Affganistan[11] Nodyn:Country data NATO NATO[12] |
Rhyfeloedd a brwydrau | Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan Rhyfel Cartref Affganistan (1989–92) Rhyfel Cartref Affganistan (1992–96) Rhyfel Cartref Affganistan (1996–2001) Rhyfel Affganistan (2001–21) Gwrthryfel y Taleban Ymgyrch Zarb-e-Azb |
Mudiad gwrthryfelgar a leolir yn nwyrain Affganistan a gogledd-orllewin Pacistan yw rhwydwaith Haqqani a fu'n ymladd yn Rhyfeloedd Affganistan ers tua 1980. Ar hyn o bryd, mae'n brwydro yn erbyn lluoedd NATO a llywodraeth Affganistan.
Sefydlwyd y grŵp gan Jalaluddin Haqqani, a frwydrodd yn erbyn y comiwnyddion a'r Sofietiaid yn y 1980au. Cafodd ei addysgu yn ysgolion Islamaidd eithafol yn Affganistan a Phacistan. Yn ystod y rhyfel, magodd cysylltiadau agos rhwng Haqqani a'r ISI a'r CIA a hefyd arianwyr tramor megis Osama bin Laden.[13] Am gyfnod roedd Haqqani wedi cynghreirio â'r mujahideen, a fe wasanaethodd yn weinidog cyfiawnder yn y cabinet dros dro. Ym 1995, fe ddatganodd ei fod yn deyrngar i'r Taliban. Ymunodd milwyr y rhwydwaith â'r Taliban wrth gipio Kabul ym 1996. Penodwyd Haqqani yn weinidog dros faterion llwythol, a daliai'r swydd honno nes goresgyniad Affganistan yn 2001 a chwymp llywodraeth y Taliban. Ers 2001, mae'r rhwydwaith wedi cynorthwyo gwrthryfel y Taleban. Ildiodd Jalaluddin yr awenau i'w fab Sirajuddin. Rhoddai bai ar rwydwaith Haqqani am sawl ymosodiad terfysgol, bradlofruddiaeth, a chyrchoedd ar y brifddinas.
Cyhuddir elfennau o awdurdodau Pacistan, yn enwedig yr ISI, o gefnogi'r rhwydwaith.[14][15]