Knowledge Base Wiki

Search for LIMS content across all our Wiki Knowledge Bases.

Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.

Plaid Gweithwyr Corea
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
IdiolegKimilsungism–Kimjongilism Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu30 Mehefin 1949, 28 Awst 1946 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadYsgrifennydd Cyffredinol Edit this on Wikidata
SylfaenyddKim Il-sung Edit this on Wikidata
RhagflaenyddPlaid Gweithwyr Gogledd Corea Edit this on Wikidata
PencadlysKim Il-sung Square Edit this on Wikidata
Enw brodorol조선로동당 Edit this on Wikidata
GwladwriaethGogledd Corea Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.rodong.rep.kp Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Plaid lywodraethol Gweriniaeth Pobl Ddemocrataidd Corea (Gogledd Corea) yw Plaid Gweithwyr Corea, a'r unig blaid wleidyddol swyddogol yn y wladwriaeth honno.

Hanes

Sefydlwyd Plaid Gweithwyr Corea dan arweiniad Kim Il-sung yn Awst 1946.

Yn niwedd y 1990au dechreuodd grym Plaid y Gweithwyr wanhau ychydig o ganlyniad i'r polisi sŏngun a gyflwynwyd gan Kim Jong-il, a wnâi ddyrchafu'r lluoedd arfog yn uwch na'r blaid. Fodd bynnag, mae'r blaid o hyd yn rheoli'r economi ac yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol y bobl.

Trefniant ac aelodaeth

Awdurdod uchaf y blaid ydy'r gyngres, a arweinir gan bwyllgor canolog etholedig. Cynhaliwyd cyngres y blaid bob pum mlynedd hyd at y Bumed Gyngres ym 1970; ers hynny, cafwyd y Chweched Gyngres ym 1980 a'r Seithfed Gyngres yn 2016. Penderfynir ar bolisïau'r blaid gan y Biwro Gwleidyddol.[1]

Yn swyddogol, mae aelodaeth Plaid Gweithwyr Corea yn agored i bob dinesydd. Mewn gwirionedd, mae'n rhaid i aelodau gydymffurfio â safonau o ran ffyddlondeb gwleidyddol a dosbarth cymdeithasol. Gweithwyr diwydiannol sydd yn cyfri am y nifer fwyaf o'r aelodau; yn ail, y gwerinwyr neu ffermwyr yw'r gyfran fwyaf, ac yna'r "deallusion" (gweithwyr swyddfa). Er gwaethaf ideoleg gomiwnyddol Gogledd Corea, mae aelodau Plaid y Gweithwyr yn derbyn breintiau wrth ddosbarthu bwyd, tai, a darpariaeth addysg.[1]

Ideoleg a pholisi

Mae Plaid Gweithwyr Corea yn arddel Juche, ideoleg wladwriaethol Gogledd Corea, sydd yn cyfuno comiwnyddiaeth â chenedlaetholdeb.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Korean Workers' Party. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Rhagfyr 2021.