Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Mae nwy yn un o'r pedwar prif gyflwr mater (ynghyd â solid, hylif a phlasma). Gall nwy pur gael ei wneud o atomau unigol (e.e. nwy nobl neu nwy atomig fel neon) neu foleciwlau elfennaidd wedi'i wneud o un math o atom (e.e. carbon deuocsid). Mae cymysgedd nwyon yn cynnwys nifer o nwyon pur fel y mae atmosffer y Ddaear. Yr hyn sy'n gwneud nwy mor wahanol i hylif neu solid ydy'r gap neu'r lle gwag rhwng yr holl ronynnau. Effaith y lle gwag yma ydy nwy di-liw, fel arfer.
Yr unig elfennau cemegol sy'n sefydlog ar dymheredd a gwasgedd Ssafonol (STP) yw: hydrogen (H2), nitrogen (N2) ac ocsigen (O2); a hefyd dau halogen, fflworin (F2) a chlorin (Cl2). Mae'r rhain, wedi'u grwpio gyda'r nwyon nobl (heliwm) (He), neon (Ne), argon (Ar), crypton (Kr), senon (Xe) a radon (Rn)) yn cael eu galw'n ‘nwyon elfennaidd’. Ar y llaw arall, maen nhw weithiau'n cael eu galw'n ‘nwyon moleciwlaidd’ er mwyn eu gwahaniaethu oddi wrth moleciwlau sydd hefyd yn elfennau cemegol.