Mererid Hopwood Ganwyd Elin Mererid Hopwood 18 Chwefror 1964 Caerdydd Dinasyddiaeth Cymru Alma mater Galwedigaeth bardd , cyflwynydd teledu, llenor , darlithydd Swydd Chair of Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth University Gwobr/au Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Darlithydd a bardd o Gymraes yw Mererid Hopwood (ganwyd 18 Chwefror 1964 ). Hi oedd y ferch gyntaf erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol , a gwnaeth hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001 .[ 1] Mae'n brifardd dwbl ac yn brif lenor ac mae galw mawr amdani i ddarlithio a chynnal gweithdai barddoni.
Bywyd cynnar ac addysg
Fe'i ganwyd a magwyd yng Nghaerdydd ond roedd ei theulu yn hannu o Bontiago , Sir Benfro . Mynychodd ysgolion Bryntaf a Llanhari . Graddiodd mewn Almaeneg a Sbaeneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac aeth ymlaen i gwblhau doethuriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain.[ 2]
Gyrfa
Cychwynnodd ddarlithio yn adrannau'r Gymraeg ac Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe . Bu'n bennaeth ar swyddfa gorllewin Cymru Cyngor y Celfyddydau cyn ymadael i weithio fel awdur a darlithydd ar ei liwt ei hun. Bu hefyd yn Athro Ieithoedd a'r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant . Roedd yn Fardd Plant Cymru yn 2005.
Yn Hydref 2020 cafodd ei phenodi'n Athroโr Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ddechrau yn y swydd ar ddechrau mis Ionawr 2021.[ 3]
Ym Mehefin 2023 cyhoeddwyd mai Hopwood fydd Archdderwydd Gorsedd y Beirdd am y cyfnod 2024-2027.[ 4] Trosglwyddwyd yr awenau iddi gan Myrddin ap Dafydd ar 27 Ebrill 2024 yn seremoni gyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025 .[ 5]
Bywyd personol
Mae'n byw yn Llangynnwr , Sir Gaerfyrddin gyda'i gลตr Martin ac mae ganddynt tri plentyn - Hanna, Miriam a Llewelyn.
Llyfryddiaeth
Barddoniaeth
Rhyddiaith
O Ran (Gwasg Gomer, 2008)
Llyfrau oedolion
Llyfrau plant
(gyda Ceri Wyn Jones , Tudur Dylan Jones , Sonia Edwards ac Elinor Wyn Reynolds ) Byd Llawn Hud (Gwasg Gomer, 2004)
(gyda Tudur Dylan Jones , Gwion Hallam , Caryl Parry Jones , Mei Mac a Ceri Wyn Jones ) Caneuon y Coridorau (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Plentyn (Dref Wen, Gorffennaf 2005)
O'r Mรดr i Ben y Mynydd (Gwasg Gomer, 2006)
Y Tandem Hud (Gwasg Gwynedd, 2006)
(gol.) Cerddi'r Gof (Dref Wen, 2006)
Ar Bwys... (Gwasg Gomer, 2007)
Gwersylla (Y Lolfa, 2010)
Y Sw (Y Lolfa, 2010)
Trysor Mam-gu (Gwasg Gomer, 2010)
Cynghanedd i Blant (Cyhoeddiadau Barddas, 2010)
Straeon o'r Mabinogi (Gwasg Gomer, 2012)
(gydag Ann-Marie Gealy) Bric, Bloc a Bwced (Cyhoeddiadau y Drindod Dewi Sant, 2012)
(gyda Tudur Dylan Jones) Beibl Odl y Plant (Cyhoeddiadau'r Gair, 2013)
Dosbarth Miss Prydderch a'r Carped Hud (Gwasg Gomer, 2017)
Dosbarth Miss Prydderch a Silff y Sarff (Gwasg Gomer, 2017)
Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau (Gwasg Gomer, 2017)
Dosbarth Miss Prydderch a'r Eisteddfod Genedlaethol (Gwasg Gomer, 2018)
Holl Hanes Cymru: Llyfr Hopcyn ap Tomos (Canolfan Peniarth, 2017)
Nest (Canolfan Peniarth, 2017)
Dosbarth Miss Prydderch a'r Dreigiau (Gwasg Gomer, 2018)
Dosbarth Miss Prydderch a Dewin y Dลตr (Gwasg Gomer, 2019)
(gyda Tudur Dylan Jones) Aled Acen Grom (Canolfan Peniarth, 2018)
(gyda Tudur Dylan Jones) Alys Atalnod (Canolfan Peniarth, 2018)
(gyda Tudur Dylan Jones) Arwel Atalnod Llawn (Canolfan Peniarth, 2018)
(gyda Tudur Dylan Jones) Catrin Collnod (Canolfan Peniarth, 2018)
(gyda Tudur Dylan Jones) Dan a Dyfan Dyfynnod (Canolfan Peniarth, 2018)
(gyda Tudur Dylan Jones) Elen Ebychnod (Canolfan Peniarth, 2018)
(gyda Tudur Dylan Jones) Gafin Gofynnod (Canolfan Peniarth, 2018)
(gyda Tudur Dylan Jones) Bai ar Gam? (Canolfan Peniarth, 2019)
(gyda Tudur Dylan Jones) Paul Robeson (Canolfan Peniarth, 2019)
(gyda Tudur Dylan Jones) Pleidiol Wyf i'm Gwlad (Canolfan Peniarth, 2019)
(gyda Tudur Dylan Jones) Archwilio'r Amgylchedd yn y Dref: Cyfres 1 (Canolfan Peniarth, 2019)
Anifeiliaid y Dref
Bwyd o Bedwar Ban Byd
Croesi'r Ffordd
Hamdden yr Haf
Lliwiau
Rwy'n Clywed รข'm Clust Fach i...
Rwy'n Gweld รข'm Llygad Fach i ...
Teithio
(gyda Tudur Dylan Jones) Archwilio'r Amgylchedd yn y Dref: Cyfres 2 (Canolfan Peniarth, 2019)
Bwrw Glaw
Darllen y Dref
Deffro Roco
Dyddiaduron Betsan
Gofal Gofal
Maes Awyr
Trip i'r Farchnad
Ar Gof: Y Lloer a'r Sรชr (Atebol, 2020)
Gwobrau ac anrhydeddau
Gweler hefyd
Cyfeiriadau