Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Enghraifft o'r canlynol | organebau yn ôl enw cyffredin |
---|---|
Math | mamal dyfrol |
Y gwrthwyneb | mamal tir |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae mamaliaid morol yn famaliaid dyfrol sy'n dibynnu ar y cefnfor ac ecosystemau morol eraill am eu bodolaeth. Maent yn cynnwys adeindroedion (morloi, morlewod a walrysod), morfilogion (morfilod, dolffiniaid a llamidyddion), morfuchod (manatïaid a dwgongiaid), dyfrgwn y môr ac eirth gwynion. Maent yn grŵp anffurfiol, wedi'u huno dim ond oherwydd eu dibyniaeth ar amgylcheddau morol ar gyfer bwydo a goroesi.
Mae addasiad mamaliaid morol i ffordd o fyw dyfrol yn amrywio'n sylweddol rhwng rhywogaethau. Mae morfilogion a morfuchod yn gwbl ddyfrol ac felly mae'n rhaid iddyn nhw fyw mewn dŵr hallt. Mae adeindroedion yn lled-ddyfrol; maen nhw'n treulio'r mwyafrif o'u hamser yn y dŵr ond mae angen iddyn nhw ddychwelyd i dir ar gyfer gweithgareddau pwysig fel paru, bridio a molio. Ar y llaw arall, mae'r dyfrgi a'r arth wen wedi'u haddasu llawer llai i fyw mewn dŵr.
Amrywia dietau mamaliaid morol yn sylweddol; mae rhai'n bwyta söoplancton, eraill yn bwyta pysgod, môr-lewys, pysgod cregyn neu forwellt, ac mae ychydig yn bwyta mamaliaid eraill. Er bod nifer y mamaliaid morol yn fach o gymharu â'r rhai a geir ar dir, mae eu rolau mewn amrywiol ecosystemau yn hynod o bwysig, yn enwedig o ran cynnal a chadw ecosystemau morol, trwy brosesau gan gynnwys rheoleiddio poblogaethau ysglyfaethus. Mae'r rôl hon wrth gynnal ecosystemau yn eu gwneud yn destun pryder arbennig gan fod 23% o rywogaethau mamaliaid morol dan fygythiad ar hyn o bryd.
Cafodd mamaliaid morol eu hela gyntaf gan bobl frodorol am fwyd ac adnoddau eraill. Lladdwyd llawer hefyd ar gyfer diwydiant masnachol, gan arwain at ddirywiad sydyn ym mhob poblogaeth o rywogaethau a ecsbloetiwyd, e.e. morfilod a morloi. Arweiniodd hela masnachol at ddifodiant morfuwch Steller (Hydrodamalis gigas), minc y môr, morlew Japan a mynach-forlo'r y Caribî. Ar ôl i hela masnachol ddod i ben, mae rhai rhywogaethau, fel y Morfil Llwyd a morlo eliffant y gogledd, wedi cynyddu mewn niferoedd; i'r gwrthwyneb, mae rhywogaethau eraill, fel morfil y Basgiaid (Eubalaena glacialis), mewn perygl ofnadwy.[1][2] Ar wahân i hela, lleddir llawer o famaliaid morol mewn rhwydi oysgod, lle maent yn dod yn gaeth i rwydo sefydlog ac yn boddi neu'n llwgu. Mae mwy o draffig cefnforol gan longau enfawr yn achosi gwrthdrawiadau rhwng llongau cefnfor cyflym a mamaliaid morol mawr. Mae diraddio cynefinoedd hefyd yn bygwth mamaliaid morol a'u gallu i ddod o hyd i fwyd a'i ddal. Gall llygredd sŵn, er enghraifft, effeithio'n andwyol ar famaliaid sy'n adleoli, ac mae effeithiau parhaus cynhesu byd-eang yn dirywio amgylcheddau Arctig.
Mae mamaliaid morol yn ffurfio grŵp amrywiol o 129 o rywogaethau sy'n dibynnu ar y cefnfor am eu bodolaeth.[3][4] Maent yn grŵp anffurfiol sydd wedi'u huno dim ond oherwydd eu dibyniaeth ar amgylcheddau morol ar gyfer bwydo.[5] Er gwaethaf yr amrywiaeth rhyngddynt, o ran anatomeg, y prif ysgogydd yn eu hesblygiad yw gwella eu effeithlonrwydd chwilio a hela am fwyd.[6][7]
Mae lefel y ddibyniaeth ar yr amgylchedd morol yn amrywio'n sylweddol yn ôl rhywogaethau. Er enghraifft, mae morfilogion yn gwbl ddibynnol ar yr amgylchedd morol ar gyfer pob cam o'u bywyd; mae adeindroedion yn bwydo yn y môr ond yn bridio ar dir; a rhaid i eirth gwyn fwydo ar dir.[5]
Daeth y morfilogion yn ddyfrol tua 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP).[8] Mae'r term ‘Cetartiodactyla’ yn adlewyrchu'r syniad bod morfilogion wedi esblygu o fewn grwp y carnolion. Bathwyd y term trwy uno'r enw ar gyfer y ddau urdd, Cetacea ‘morfilogion’ ac Artiodactyla ‘carnolion eilrif-fyseddog’, yn un gair. O dan y diffiniad hwn, credir mai'r hipopotamysau yw'r perthynas byw agosaf at y morfilogion.[9][10][11][12]
Daeth morfuchod, y gwartheg môr, yn ddyfrol tua 40 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Roedd ymddangosiad cyntaf morfuchod yn y cofnod ffosil yn ystod yr Eosen cynnar, ac erbyn yr eosen hwyr, roedd morfuchod wedi arallgyfeirio'n sylweddol. Yn breswylwyr afonydd, aberoedd a dyfroedd morol ger y lan, roeddent yn gallu epilio ac amlhau'n gyflym. Daethpwyd o hyd i'r forfuwch fwyaf cyntefig, (y Prorastomws), yn Jamaica, yn wahanol i famaliaid morol eraill a darddodd o'r Hen Fyd (fel y morfilod).[7] Y forfuwch bedeircoes gyntaf y gwyddys amdano oedd y Pezosiren o ganol yr Eosen cynnar.[13] Roedd y morfuchod cynharaf y gwyddys amdanynt, o'r teuluoedd Prorastomidae a Protosirenidae, ill dau wedi'u cyfyngu i'r Eosen, ac roeddent yn bedwartroedion lled-ddyfrol o faint mochyn. Ymddangosodd aelodau cyntaf Dugongidae erbyn canol yr Eosen. Ar y pwynt hwn, roedd y morfuchod yn gwbl ddyfrol.[14][15]