Knowledge Base Wiki

Search for LIMS content across all our Wiki Knowledge Bases.

Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.

John Bruton
Taoiseach
Yn ei swydd
15 Rhagfyr 1994 – 26 Mehefin 1997
ArlywyddMary Robinson
TánaisteDick Spring
Rhagflaenwyd ganAlbert Reynolds
Dilynwyd ganBertie Ahern
Llysgennad yr Undeb Ewropeaidd i Unol Daleithiau America
Yn ei swydd
24 Tachwedd 2004 – 31 Hydref 2009
ArlywyddJosé Manuel Barroso
Rhagflaenwyd ganGünter Burghardt
Dilynwyd ganAngelos Pangratis (Acting)
Arweinydd yr Wrthblaid
Yn ei swydd
26 Mehefin 1997 – 9 Chwefror 2001
ArlywyddMary Robinson
Mary McAleese
TaoiseachBertie Ahern
Rhagflaenwyd ganBertie Ahern
Dilynwyd ganMichael Noonan
Yn ei swydd
20 Tachwedd 1990 – 15 Rhagfyr 1994
ArlywyddPatrick Hillery
Mary Robinson
TaoiseachCharles Haughey
Albert Reynolds
Rhagflaenwyd ganAlan Dukes
Dilynwyd ganBertie Ahern
Arweinydd Fine Gael
Yn ei swydd
21 Tachwedd 1990 – 9 Chwefror 2001
DirprwyPeter Barry
Nora Owen
Rhagflaenwyd ganAlan Dukes
Dilynwyd ganMichael Noonan
Dirprwy Arweinydd Fine Gael
Yn ei swydd
26 Mawrth 1987 – 20 Tachwedd 1990
ArweinyddAlan Dukes
Rhagflaenwyd ganPeter Barry
Dilynwyd ganPeter Barry
Minister for the Public Service
Yn ei swydd
20 Ionawr 1987 – 10 Mawrth 1987
TaoiseachGarret FitzGerald
Rhagflaenwyd ganRuairi Quinn
Dilynwyd ganAlan Dukes
Minister for Finance
Yn ei swydd
14 Chwefror 1986 – 10 Mawrth 1987
TaoiseachGarret FitzGerald
Rhagflaenwyd ganAlan Dukes
Dilynwyd ganRay MacSharry
Yn ei swydd
30 Mehefin 1981 – 9 Mawrth 1982
TaoiseachGarret FitzGerald
Rhagflaenwyd ganGene Fitzgerald
Dilynwyd ganRay MacSharry
Minister for Industry, Trade, Commerce and Tourism
Yn ei swydd
13 Rhagfyr 1983 – 14 Chwefror 1986
TaoiseachGarret FitzGerald
Rhagflaenwyd ganGarret FitzGerald (Acting)
Dilynwyd ganMichael Noonan
Minister for Industry and Energy
Yn ei swydd
14 Rhagfyr 1982 – 13 Rhagfyr 1983
TaoiseachGarret FitzGerald
Rhagflaenwyd ganAlbert Reynolds
Dilynwyd ganDick Spring
Parliamentary Secretary to the Minister for Education
Yn ei swydd
14 Mawrth 1973 – 25 Mai 1977
TaoiseachLiam Cosgrave
Rhagflaenwyd ganBobby Molloy
Dilynwyd ganJim Tunney
Parliamentary Secretary to the Minister for Industry and Commerce
Yn ei swydd
14 Mai 1973 – 25 Mai 1977
TaoiseachLiam Cosgrave
Rhagflaenwyd ganGerry Collins
Dilynwyd ganMáire Geoghegan-Quinn
Teachta Dála
Yn ei swydd
June 1969 – 31 Hydref 2004
EtholaethMeath
Manylion personol
GanwydJohn Gerard Bruton
(1947-05-18)18 Mai 1947
Dunboyne, County Meath, Ireland
CenedligrwyddGwyddel
Plaid wleidyddolFine Gael
PriodFinola Bruton (m. 1978)
PerthnasauRichard Bruton (Brother)
Plant3
Rhieni
  • Joseph Bruton
  • Doris Bruton
AddysgClongowes Wood College
Alma mater
Galwedigaeth
GwefanOfficial website

Roedd John Gerard Bruton (Gwyddeleg: Seán de Briotún) (18 Mai 19476 Chwefror 2024) yn wleidydd o Iwerddon, a fu'n taoiseach (Prif Weinidog) Gweriniaeth Iwerddon o 15 Rhagfyr 1994 i 26 Mehefin 1997. Bu hefyd yn llysgennad yr Undeb Ewropeaidd i Unol Daleithiau America.[1]

Ganed ef yn Dunboyne, County Meath, i deulu amaethu Catholig cyfoethog. Noda Oliver Coogan yn ei lyfr, 'Politics and War in Meath 1913–23' i'w daid wrthod i'r helfa cadnoid gan y teuluoedd Eingl-Wyddelig lleol, tramgwyddo ei dir adeg Rhyfel Annibyniaeth. Cyfeirir ato fel Taoiseach lwcus am y ffordd yr enillodd rym ac oherwydd i economi Iwerddon brasgamu i'r cyfnod 'Celtic Tiger' yn ystod ei gyfnod fel arweinydd.

Addysg

Graddiodd o ysgol yr Iesuwyr Coleg Clongowes Wood, astudiodd economeg yng Ngholeg Prifysgol Dulyn a'r gyfraith yn y King's Inns, gan ddod yn fargyfreithiwr yn 1970.[2] Bu'n ymwneud â gwleidyddiaeth Fine Gael yn ddyn ifanc, gan ymuno â hi ym 1965.

Gyrfa wleidyddol

Cyflwyno Gwobrau fel Gweinidog Diwydiant, Medi 1984

Ym 1969 fe'i hetholwyd i senedd Iwerddon, Dáil Éireann, am y tro cyntaf. Fe'i ail-etholwyd yn llwyddiannus yn etholiadau 1973, 1977, 1981, 1982, Tachwedd 1982, 1987, 1989, 1992, 1997 a 2002, gan wasanaethu fel Teacht Dala yn nhŷ isaf Senedd Iwerddon.[3]

Yn 1973 - 1977 bu'n ysgrifennydd seneddol. O fis Mehefin 1981 i fis Mawrth 1982 bu'n Weinidog Cyllid. O fis Rhagfyr 1982 i fis Rhagfyr 1983 bu'n Weinidog Diwydiant ac Ynni, yna'r Gweinidog Diwydiant, Masnach a Thwristiaeth (tan fis Chwefror 1986), y Gweinidog Cyllid (tan fis Ionawr 1987) a'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (tan fis Mawrth 1987). Yn 1990 daeth yn llywydd newydd plaid Fine Gael gan gymryd lle Alan Dukes fel arweinydd. [4]

Taoiseach, Prif Weinidog Iwerddon

Ar ôl etholiadau 1992, daeth Fine Gael yn wrthblaid. Fodd bynnag, yn dilyn anghytuno o fewn clymblaid llywodraethol Albert Reynolds Fianna Fail a Plaid Lafur Iwerddon yn 1994, llwyddodd Burton i greu llywodraeth newydd, 'yr enfys, yn cynnwys Fine Gael, y Blaid Lafur a'r Chwith Democrataidd. Yn 47 oed Burton oedd taoiseach ifancaf Iwerddon ar y pryd (nes i Leo Varadkar ddod yn Taoiseach yn 2017). Dyma'r tro cyntaf i Iwerddon gael prif weinidog newydd heb gynnal Etholiad Cyffredinol. Daliodd swydd y Taoiseach ac arweinydd Llywodraeth yr enfys o fis Rhagfyr 1994 i fis Mehefin 1997. Yn ystod y cyfnod hwn, ymhlith pethau eraill, bu'n arwain Llywyddiaeth Iwerddon yr Undeb Ewropeaidd, yn ystod trafodaethau ar y Pact Sefydlogrwydd a Thyfiant.[5]

Yn 2001, ymddiswyddodd fel pennaeth y Fine Gael. Bu'n aelod o'r senedd, a'i gynrychioli yn y Confensiwn Ewropeaidd.[6] Yn 2004, ymddiswyddodd o fandad y dirprwy. O fis Rhagfyr 2004 i fis Hydref 2009, roedd yn Llysgennad yr Undeb Ewropeaidd i'r Unol Daleithiau.[7]

Roedd disgwyl i Fine Gael ennill etholiad 1997, ond er i'r blaid wneud yn dda, collodd Llafur dir. Yn y pendraw, sefydlwyd llywodraeth newydd rhwng Fianna Fail a'r Progressive Democrats o dan arweinyddiaeth Bertie Ahern ac ymddiswyddodd Burton yn 2001.

Nodweddion ei Brif Weinidogaeth

Cytunwyd i lywodraeth yr enfys fod yn un llwyddiannus, gyda chydweithio agos rhwng Bruton ac arweinydd y Blaid Lafur, Dick Spring a Proinsias de Rossa o'r Chwith Democrataidd. Daeth Bruton o draddodiad Plaid Seneddol Iwerddon, a hongiai darlun o John Redmond yn ei swyddfa - y dyn a gollodd i don gweriniaethol Sinn Fein wedi Gwrthryfel y Pasg. Ond roedd hefyd portread o Seán Lemass, dyn, a dybiau Bruton i fod yn Brif Weinidog mwyaf effeithiol y wladwriaeth, er ei fod yn aelod o Fianna Fail.

O dan Lywodraeth yr Enfys, pasiwyd Refferendwm a newidiodd Cyfansoddiad y Weriniaeth gan roi rhai hawliau i gyplau priod ysgaru o fewn cyfyngderau. Roedd y refferendwm ar 24 Tachwedd 1995 gyda'r bleidlais yn agos tu hwnt; 818,842 (50.28%) o blaid newid y cyfansoddiad, a 809,728 (49.72%) yn erbyn. Daeth yn ddeddf gwlad ar 17 Mehefin 1996.[8]

Gwelwyd datblygiadau tuag at cymodi a rhoi trefn cyfansoddiadol newydd rhwng Gogledd Iwerddon, y Weriniaeth a Phrydain gyda lansio 'Dogfen Fframwaith' Eingl-Wyddelig ym mis Chwefror 1995 gyda Phrif Weinidog Prydain, John Major. Er i'r cyn Taoisech, Albert Reynolds ei alw'n 'John Unionist' roedd yn feirniadol iawn o benderfyniad Prydain i beidio ymwneud gyda Sinn Fein yn ystod cadoediad yr IRA rhwng 1994-97.

Yn ystod ei gyfnod hefyd, fe groesawyd Tywysog Charles i'r Iwerddon. Dyma'r ymweliad gyntaf gan aelod o deulu brenhinol Lloegr i'r Iwerddon ers 1912.

Yn dilyn llofruddio'r newyddiadurwraig, Veronica Guerin, sefydlodd ei Lywodraeth y Criminal Assets Bureau.

Personol

Roedd yn briod â Finola Bruton, mae ganddo bedwar o blant.[9] Roedd yn frawd i'r gwleidydd Richard Bruton.

Dolenni

Cyfeiriadau