Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Ffeil awdurdodi yw'r Gemeinsame Normdatei ("Ffeil awdurdodi unedig"; Saesneg: Integrated Authority File) neu GND. Mae'n cynnwys cofnodion o ddata am amryw o bynciau, sy'n cynorthwyo creu a chynnal catalogau. Fe'i datblygwyd gan nifer o sefydliadau ym myd y llyfrgelloedd Almaeneg, gan gynnwys y Deutsche Nationalbibliothek. Mae'r GND yn gyfuniad o sawl ffeil awdurdodi blaenorol, a oedd yn trin pynciau penodol, dan un ffeil cyffredin (ystyr gemeinsam); unwyd y rhain ym mis Ebrill 2012. Caiff y GND ei ddefnyddio gan lyfrgelloedd, amgueddfeydd, archifdai a golygwyr cyfeiriaduron.[1]