Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Ian Holm | |
---|---|
Ganwyd | Ian Holm Cuthbert 12 Medi 1931 Goodmayes |
Bu farw | 19 Mehefin 2020 o clefyd Parkinson Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu, actor |
Adnabyddus am | The Lord of the Rings trilogy, Chariots of Fire, Alien |
Arddull | comedi Shakespearaidd |
Taldra | 1.66 metr |
Priod | Penelope Wilton |
Plant | Barnaby Holm |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, CBE, Gwobr Annie, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Marchog Faglor |
Roedd Sir Ian Holm, CBE (12 Medi 1931 – 19 Mehefin 2020) yn actor Seisnig.[1][2] Ymddangosodd yn ffilm Kenneth Branagh o Henry V fel y milwr o Gymru, Fluellen. Enillodd Wobr BAFTA am Actor Cefnogol Gorau am ei rôl yn y ffilm Chariots of Fire.
Roedd ei rannau adnabyddus mewn ffilmiau yn cynnwys Ash yn Alien, y Tad Vito Cornelius yn The Fifth Element, Chef Skinner yn Ratatouille, a Bilbo Baggins yn The Lord of the Rings a chyfres ffilm The Hobbit.
Cafodd ei eni, fel Ian Holm Cuthbert, yn Goodmayes, Essex, yn fab i James Harvey Cuthbert a'i wraig Jean Wilson (née Holm). Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Chigwell ac yn RADA.
Roedd yn briod bedair gwaith. Ei drydedd wraig oedd yr actores Penelope Wilton. Roedden nhw wedi ysgaru yn 2001.