Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Giorgio Strehler | |
---|---|
Ganwyd | 14 Awst 1921 Barcola |
Bu farw | 25 Rhagfyr 1997 o trawiad ar y galon Lugano |
Dinasyddiaeth | yr Eidal, Teyrnas yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr theatr, gwleidydd, rheolwr theatr, actor, cyfarwyddwr, cyfarwyddwr opera |
Swydd | Llywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes, Aelod o'r Senedd Eidalaidd, Aelod Senedd Ewrop |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd yr Eidal |
Mam | Albertina Ferrari |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Q3405885, Q3114261, Gwobr Theatr Ewrop, Gwobr Friedrich-Gundolf, honorary doctor of the Autonomous University of Barcelona, Gwobr Ryngwladol Viareggio-Versilia, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, honorary doctor of the Sorbonne Nouvelle University, Medal Goethe |
Cyfarwyddwr theatr ac opera ac actor o'r Eidal oedd Giorgio Strehler (14 Awst 1921 – 25 Rhagfyr 1997).
Ganwyd yn Barcola, Trieste, i dad Awstriaidd a mam o Eidales. Astudiodd y celfyddydau dramataidd yn yr Accademia dei Filodrammatici ym Milan a Conservatoire Genefa. Ymunodd â chwmnïau theatr ar daith, gan gynnwys y Gruppo Palcoscenico, i gael profiad o actio a chyfarwyddo. Roedd yn sosialydd ac yn aelod o'r gwrthsafiad yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyn iddo symud i'r Swistir.[1]
Cydsefydlodd y Piccolo Teatro ym Milan, a bu'n gyfarwyddwr artistig y theatr honno o 1947 i 1968 ac o 1972 i 1997. Bu hefyd yn sefydlydd a chyfarwyddwr y Gruppo Teatro e Azione o 1968 i 1972, ac yn gyfarwyddwr artistig y Théâtre de l’Europe ym Mharis o 1983 i 1990. Yn ogystal â'r 250 o ddramâu a gyfarwyddwyd ganddo, gan gynnwys gweithiau William Shakespeare, Bertolt Brecht, a Carlo Goldoni, cyfarwyddodd operâu yn La Scala, Milan.
Gwasanaethodd yn Senedd yr Eidal am un tymor, o 1987 i 1992.[2] Bu farw yn ei gartref yn Lugano, y Swistir, o drawiad ar y galon, yn 76 oed.[3]