Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau |
---|---|
Dyddiad | 1938 |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Lleoliad | Gerddi Sophia |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1938 yng Ngerddi Sophia, Caerdydd. Am y tro cyntaf ers blynyddoedd yr oedd y cystadlaethau llenyddol yn Gymraeg i gyd. Hefyd penderfynodd y Pwyllgor Gwaith nad oedd neb i gael llywyddu yn yr Eisteddfod hon oni byddai naill ai yn gwasanaethu Cymru ar hyn o bryd neu รข chysylltiad byw รข hi. Yn รดl erthygl yn Atgofion Eisteddfod 1938 yn Rhaglen y Dydd, Eisteddfod 2008, cafwyd o'r diwedd Babell Lรชn deilwng o'r Eisteddfod, Theatr Tywysog Cymru at wasanaeth y ddrama, a Neuadd y Ddinas i'r Arddangosfa Celf a Chrefft.
Yn รดl yr un erthygl, cynhaliwyd brynhawn Mercher gyfarfod yn Neuadd y Ddinas, dan nawdd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg, i ystyried safle gyfreithiol yr iaith Gymraeg. Penderfynwyd mynd ymlaen รข'r Ddeiseb Genedlaethol i hawlio cydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith yn llysoedd barn Cymru ac yn ei bywyd cyhoeddus. Ddydd Llun, cynhaliodd Cymdeithas y Cymmrodorion gyfarfod i ystyried cyhoeddi Geiriadur Bywgraffyddol Cenedlaethol o dan olygiaeth R. T. Jenkins a J. E. Lloyd.
Rhoddwyd y gadair gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd am awdl ar un o ddau destun, sef 'Rwy'n edrych dros y bryniau pell' neu 'Trystan ac Esyllt'. Y beirniaid oedd T. Gwynn Jones a Saunders Lewis.
Ymwelodd y John F. Kennedy ifanc รข'r Eisteddfod gyda'i dad Joseph P. Kennedy, Sr., Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Deyrnas Unedig ar y pryd.[1]
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Rwy'n Edrych Dros y Bryniau Pell | - | Gwilym R. Jones |
Y Goron | Peniel | - | Edgar Thomas |
Y Fedal Ryddiaith | Y Graith | - | Elena Puw Morgan |