Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Testun crefyddol efengylaidd sy'n honni adrodd hanes am Iesu o Nasareth yw efengyl. Cysylltir y gair yn bennaf â'r Pedair Efengyl a geir ar ddechrau'r Testament Newydd yn y Beibl Cristnogol, ond mae'n derm a geir yn nheitlau sawl testun arall hefyd.
Daw'r gair o'r Groeg "euangelion" a'r Lladin "evangelium") a gelwir y pedwar llyfr cyntaf yn y Testament Newydd yn "Efengylau" a'r pedwar Disgybl yn "Efengylwyr". Mae'r cyfieithiad Saesneg "Gospel", fodd bynnag, yn tarddu o'r hen Saesneg "Newyddion Da".
Y Pedair Efengyl canonaidd yw:
Yn y llenyddiaeth apocryffaidd a gysylltir â'r Testament Newydd ond nas derbynnir fel rhan o'r llyfr hwnnw bellach, ceir sawl efengyl, e.e. Efengyl Nicodemus, a fu'n destun poblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol. Mae testunau eraill yn cynnwys efengylau apocryffaidd a briodolir i Philip, Mathew, Sant Pedr, ac eraill. Math o efengyl hefyd yw'r testun apocryffaidd Cymraeg Canol Mabinogi Iesu Grist.