Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Doreen Lewis | |
---|---|
Ganwyd | Doreen Davies 4 Ebrill 1953 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor, ffermwr |
Plant | Caryl Lewis |
Cantores canu gwlad a ffermwraig yw Doreen Lewis (ganwyd 4 Ebrill 1953).
Ganwyd Doreen Davies yn Aberystwyth ac fe'i magwyd yn ardal Abermeurig yn Nyffryn Aeron, Ceredigion.
Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Felinfach ac yna yn Ysgol Gyfun Aberaeron.
Yn 1969, rhyddhaodd Doreen ei record gyntaf Y Storm ar label Cambrian, รข hithau ond yn 16 oed. Bu hyn yn ddechrau ar yrfa ddisglair i'r ferch ifanc o Abermeurig.
Daeth yn enw a gwyneb cyfarwydd yn ystod y blynyddoedd wedyn gan ymddangos ar lwyfannau a sgriniau teledu led led Cymru. Aeth ei gyrfa o nerth i nerth gan ryddhau nifer o recordiau ar label Sain, a chaneuon cofiadwy fel โNans oโr Glynโ, โRhowch i mi Ganu Gwladโ, โCaeโr Blode Menynโ a โY Gwr Drwgโ.
Hi yw'r unig ferch yn hanes canu pop Cymraeg i'w chyflwyno รข disg aur am ei chyfraniad oes i adloniant.[1]
Mae Doreen wedi teithio ar hyd a lled Cymru a thramor yn canu am yn agos i 40 mlynedd โ ac maeโn dal i fwynhauโr cyfansoddi aโr perfformio, os yw amser yn caniatau iddi ynghanol bwrlwm adref ar y fferm yng Ngheredigion.
Priododd ei gลตr John yn Eglwys Ystrad Aeron yn mis Mai 1972. Ar รดl priodi symudodd y pรขr i fyw i Sgwรขr Alban yn Aberaeron. Yno fe magwyd eu plant, Gwyndaf a Caryl.[2]