Knowledge Base Wiki

Search for LIMS content across all our Wiki Knowledge Bases.

Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.

Dolgellau
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,602 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iGwenrann Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaLlanfachreth Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7431°N 3.8856°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000061 Edit this on Wikidata
Cod OSSH728178 Edit this on Wikidata
Cod postLL40 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Tref farchnad a chymuned yng Ngwynedd, yw Dolgellau. Saif yn ne'r sir, ger mynydd Cader Idris. Mae afon Wnion, un o lednentydd Afon Mawddach, yn llifo trwy’r dref gan basio dan Y Bont Fawr.

Mae Caerdydd 148.3 km i ffwrdd o Ddolgellau ac mae Llundain yn 292.5 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 56 km i ffwrdd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Cerflun o Grist yn eglwys "Our Lady of Seven Sorrows", yn Nolgellau, Cymru, gan yr arlunydd Giannino Castiglioni, 1966

Hanes ac economi

Ffotograff a gymerwyd rhwng 1890 a 1900

Cyn y cyfnod Rhufeinig yr oedd yr ardal y mae Dolgellau yn sefyll ynddi yn rhan o diroedd yr Ordoficiaid, sef un o lwythau Celtaidd Cymru a orchfygwyd gan y Rhufeinwyr yn OC 77/78. Er y darganfuwyd ychydig o darnau arian o gyfnodau yr ymherodwyr Hadrian a Trajan ger Dolgellau, mae’r ardal yn gorsog ac nid oes tystiolaeth iddi gael ei chyfanheddu yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Serch hynny, saif tair o fryngaerau ger Dolgellau, er na wyddys yn sicr pwy a'u adeiladodd.

Wedi i’r Rhufeiniaid adael, daeth yr ardal dan rheolaeth cyfres o benaethiaid Cymreig, ond mae’n debyg na fodolodd trigfa sefydledig yno tan ddiwedd y 11eg neu ddechrau’r 12g, pan y’i sefydlwyd yn faerdref, o bosibl gan Gadwgan ap Bleddyn. Tref o daeogion yng ngwasanaeth yr arglwydd neu dywysog lleol oedd maerdref, ac ni newidiwyd y statws hwn ar Ddolgellau tan deyrnasiad Harri VII (1485-1509).

O hirbell

Adeiladwyd eglwys rywbryd yn y 12g (fe’i chwalwyd a disodli gan yr adeilad presennol ym 1716), er mai Abaty Cymer, a sefydlwyd ym 1198 yn Llanelltyd, oedd y ganolfan grefyddol bwysicaf yn wreiddiol. Dechreuodd pwysigrwydd Dolgellau dyfu yn y cyfnod hwn ac fe’i chrybwyllwyd ym Mesuriad Tir Meirionnydd, a archebwyd gan Edward I (ni chrybwyllwyd Llanelltyd). Ym 1404 cynhaliwyd cyngor penaethiaid yno gan Owain Glyndŵr; saif Senedd-dy Owain Glyndŵr ar hen safle'r senedd wreiddiol.

Wrth i George Fox ymweld a’r dref ym 1657, daeth llawer o drigolion Dolgellau i fod yn Grynwyr. Oherwydd erledigaeth ymfudodd llawer ohonynt i Bennsylfania ym 1686, dan arweiniant Rowland Ellis, ffermwr bonheddig lleol. Enwyd tref Bennsylfaenig Bryn Mawr ar ôl fferm Ellis, ger Dolgellau.

Datblygodd y diwydiant gwlân yn Nolgellau i fod o’r pwysigrwydd eithaf i’r economi lleol; erbyn diwedd y 18g cyfrifwyd bod gwerth blynyddol £50,000 i £100,000 ar allgynnyrch gwlân Dolgellau. Serch hynny, dechreuodd y diwydiant ddirywio yn hanner cyntaf y 19g oherwydd dyfodiad y gwŷdd mecanyddol a diwedd y gaethfasnach. Allforio gwlân Cymreig i wisgo caethweision ym mhlanhigfeydd America oedd un o brif farchnadoedd y diwydiant[3]. Cyfrannydd arall i economi Dolgellau, er yr un cyfnod, oedd barcio; parhaodd hyn tan y 1980au, er ar radd llawer iawn llai.

Pan ddarganfuwyd aur yn ardal Dolgellau yn y 19g, brysiodd llwyth o ymchwilwyr yno. Ar un pryd cyflogwyd mwy na 500 o weithwyr yn y pyllau aur lleol. Pery hyn ar radd llawer iawn llai hyd heddiw ym mhyllau aur Gwynfynydd, un o ffynonellau prin aur Cymru.

Heddiw mae economi Dolgellau yn dibynnu'n bennaf ar dwristiaeth (gweler isod, er bod amaethyddiaeth yn chwarae rhan o hyd; cynhelir marchnad ffermwyr yng nghanol y dref bob mis.

Yr enw "Dolgellau"

Canol Dolgellau

Ni wyddys dim yn sicr am darddiad enw 'Dolgellau'. Mae’n debyg y tardd o'r geiriau “dol” a “gelli”, er yr awgrymwyd deilliannau megis “dol cellïau” neu “dol cellau [mynachod]” hefyd; oherwydd hanes yr enw, fodd bynnag, nid yw rhain mor debygol.

Ceir yr enghreifftiau cynharaf o enw'r dref mewn cofnodion gwladol Seisnig ac felly maent yn llurguniadau o'r Gymraeg. "Dolkelew" yw’r sillafiad cynharaf a wyddys amdano (1253, Mesuriad Tir Meirionnydd[4], ond gwelir y sillafiad "Dolgethley" ym 1285 (mae’r thl yn sicr yn gais i gynrychioli’r sain Gymraeg ll). Mewn dogfen a luniwyd ar gyfer Owain Glyndŵr, ceir y ffurf "Dolguelli". Wedi hynny tan y 19g, gwelir sillafiadau megis "Dolgelley", "Dolgelly" neu "Dolgelli". Defnyddiodd Thomas Pennant y ffurf "Dolgelleu" yn ei lyfr Tours of Wales, a dyna’r ffurf a ddefnyddiwyd yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1723, ond nid oedd y ffurf hon fyth yn gyfredol iawn. Yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1825 defnyddir y ffurf "Dolgellau", a mabwysiadodd Robert Vaughan o'r Hengwrt y ffurf hon ym 1836; mae’n bosibl fod y ffurf yn seiliedig ar y rhagdybiaeth mai "Dol Cellau" yw tarddiad yr enw. Hwn yw'r sillafiad safonol heddiw yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd, ond fe'i dderbyniwyd yn gynharaf yn y naill iaith na'r llall: "Dolgellau" a ysgrifennodd Islwyn Ffowc Elis ym 1949 yng Nghysgod y Cryman, ond parhaodd y sillafiad "Dolgelley" ar arwyddion ffordd tan 1958 pan mabwysiadodd y cyngor lleol y sillafiad "Dolgellau" fel enw safonol y dref.

Cysylltiadau llenyddol

Yn Nolgellau roedd yr awdur Cymraeg Marion Eames yn byw, a ysgrifennodd y nofel Y Stafell Ddirgel sy'n seiliedig ar hanes y Crynwyr a ymfudodd o Ddolgellau i'r Amerig ym 1686.

Cadwodd Robert Vaughan (1592-1667) lyfrgell helaeth yn yr Hengwrt, ger Dolgellau, yn cynnwys trysorau fel Llyfr Taliesin, Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch. Adnabyddir ei gasgliad wrth yr enw Llawysgrifau Hengwrt.

Bu sawl bardd a llenor o bwys yn byw yn yr ardal, gan gynnwys Dafydd Ionawr, O. M. Lloyd, Bethan Gwanas, Morus Cyfanedd ac Ioan Bowen Rees.

Yn y byd cerddorol bu Dolgellau yn gartref i ddiwylliant gwerin Cymru. Roedd gwyl werin yno yn y 1950au a ddilynwyd yn y 70au a'r 80au gan yr Wyl Werin Geltaidd, Dilynwyd honno gan y Sesiwn Fawr yn 1990au hyd heddiw, fel a welir isod. Ond hefyd daeth cerddoriaeth werin o'r dref gyda Cilmeri (grwp), Côr Gwerin y Gader, Defaid a Gwerinos dros gyfnod o ugain mlynedd o'r 1980au ymlaen. Bu sesiynau gwerin mewn tafarndai yn rhan naturiol o fywyd y dref hefyd drwy'r cyfnod hwn gyda sefydlu Tŷ Siamas yn benllanw.

Atyniadau lleol

Dolgellau a Mynydd Moel (Cader Idris i'r dde tu hwnt i'r llun)

Atynna ardal Dolgellau filoedd o dwristiaid bob blwyddyn oherwydd harddwch naturiol yr ardal. Daw rhan helaeth ohonynt er mwyn cerdded, heicio, beicio mynydd, marchogi, rafftio a dringo, yn enwedig ar lethrau Cader Idris.

Mae anturiaethau awyr agored yn boblogaidd yn yr ardal ac yn denu twristiaid. Lleolir Coedwig Dyfi i'r de o'r dref sy'n cynnwys sawl llwybr cerdded a llwybr beicio mynydd.

Agorwyd gorsaf trên Dolgellau – yn rhan o’r Great Western Railway - ym 1868. Caewyd y rheilffordd yn y 1960au gan Dr Beeching. Heddiw rhed "Llwybr Mawddach", sef llwybr i gerddwyr a beicwyr, ar hyd yr hen reilffordd.

Mae atyniadau hanesyddol yn cynnwys gweddillion Abaty Cymer, tua hanner milltir o'r dref. Mae hefyd fynwent Crynwyr yn y dref. Yn Ninas Mawddwy, sef pentref ger Dolgellau, mae cae o’r enw Camlan a gysylltir gan rai â'r Brenin Arthur (gweler Camlan).

Digwyddiadau diwylliannol

Sesiwn Fawr 2005

Er 1992 cynhelir gŵyl cerddoriaeth byd "Sesiwn Fawr" yn Nolgellau. Fe’i chynhaliwyd yn wreiddiol ar strydoedd y dref, ond tyfodd yn rhy fawr i ganol Dolgellau. Er 2002 cymer le ar gyrion Dolgellau a chodir tâl am fynediad. Defnyddiwyd yr arian i atynnu perfformwyr megis Cerys Matthews, Steve Earle, Mike Peters, a Super Furry Animals. Daw torfeydd o dros 5,000 o bobl i Sesiwn Fawr yn flynyddol ac honnir bod yr ŵyl yn un o brif wyliau cerddoriaeth byd Ewrop. Er 1995 darlledir yr ŵyl ar BBC Radio Cymru ac er 1997 ar S4C.

Bob haf cynhelir hefyd Ŵyl Cefn Gwlad yn Nolgellau, sef cymysg o Sioe Amaethyddol a ffair. Mae mynediad am ddim ond rhoddir yr arian a godir yn y gwahanol stondinau i achosion elusengar.

Ym 1949 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Nolgellau ac yn fwy ddiweddar ym 1994 Eisteddfod yr Urdd.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Dolgellau (pob oed) (2,688)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dolgellau) (1,694)
  
64.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dolgellau) (1793)
  
66.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dolgellau) (539)
  
42.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Ddolgellau

Gefeilliwyd Dolgellau â Gwenrann yn Llydaw (Gwenrann yw'r enw Llydaweg: Guérande yw'r enw Ffrangeg).

Oriel

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. Evans, C. P. (Chris P.) (2010). Slave Wales : the Welsh and Atlantic slavery, 1660-1850. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-2304-5. OCLC 700466934.
  4. Ellis, Thomas Peter The STORY OF TWO PARISHES DOLGELLEY & LLANELLTYD The Welsh Outlook Press Newtown 1928 (fersiwn ar lein http://www.rootsweb.ancestry.com/~wlsmer2/DolgaLLan/dolgelley_church.htm) adalwyd 14 Hydref 2013
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. "JONES, EDWARD (1834-1900), meddyg ac arweinydd llywodraeth leol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-19.
  9. OWEN, OWEN JOHN (' John Owen y Fenni '; 1867 - 1960), argraffydd a chyhoeddwr, arweinydd corawl ac arweinydd eisteddfodol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 12 Medi 2023
  10. JONES, Syr CADWALADR BRYNER (1872 - 1954), gŵr amlwg yn hanes addysg amaethyddol Cymru a gwas sifil o fri. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 12 Medi 2023
  11. ELLIS, THOMAS PETER (1873 - 1936), barnwr I.C.S. (h.y. gwasanaeth gwladol yr India), awdurdod ar gyfreithiau arferiadol y Punjab a chyfreithiau Cymru yn y Canol Oesoedd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 12 Medi 2023

Dolenni allanol