Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Cymraeg |
---|
WiciBrosiect Cymru |
Mae Cymraeg Canol yn enw ar gyfnod yn hanes yr iaith Gymraeg a estynnodd o'r 12g i'r 14g. Mae llawer o lawysgrifau ar gael o'r cyfnod hwn, gan gynnwys Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Du Caerfyrddin, a thestunau Gyfraith Hywel Dda.
Nid llรชn draddodiadol yn unig a ysgrifennid yng nghyfnod Cymraeg Canol - mae yn y llawysgrifau lawer o gyfieithiadau o ieithoedd eraill fel y Ffrangeg a'r Lladin.
Gellir gwahaniaethu rhwng Cymraeg Canol Cynnar a Chymraeg Canol Diweddar. Mae'r testunau hynaf, e.e., rhai y Cynfeirdd, yn perthyn i gyfnod Hen Gymraeg, ond wedi cael nodweddion yr iaith ddiweddaraf yn ystod eu trosglwyddo, ac felly mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng y ddwy elfen.
Mewn Cymraeg Canol yr ysgrifennwyd Pedair Cainc y Mabinogi a chwedlau eraill sy'n ymwneud รข'r Brenin Arthur a'i gylch, sef Y Tair Rhamant a Culhwch ac Olwen, ynghyd รข chwedlau brodorol fel Breuddwyd Macsen a Cyfranc Lludd a Llefelys.
Nid oedd orgraff safonol yng nghyfnod Cymraeg Canol fel yn yr iaith gyfoes. Dyma rai nodweddion amgen orgraff Cymraeg Canol nad ydynt yn bresennol yn yr iaith heddiw:
Gellir derbyn bod seiniau Cymraeg Canol yn debyg i seiniau Cymraeg Diweddar. Yr unig eithriad ydy'r sain a ysgrifennir fel /u/ [ส]; sain fel y ceir yn hus Norwyeg oedd honno, nid sain [ษจ, i] y tafodieithoedd cyfoes.
Mewn rhai testunau Cymraeg Canol, gwelir nodweddion tafodieithol sy'n debyg i'r rheini a geir heddiw: e.e., gall y sain [j] gael ei golli rhwng cytsain a llafariad, fel mewn llawer o dafodieithoedd y De. Gall /x/ (ch) gael ei newid i /h/ hefyd.
Mae Cymraeg Canol yn nes i'r hen ieithoedd Celtaidd eraill, e.e., Hen Wyddeleg, yn ei morffoleg. Er enghraifft, ceir y terfyniadau -wลทs, -ws, -es, -as, ar gyfer y trydydd person unigol amser gorffennol mewn Cymraeg Canol yn ogystal รข'r ffurf -odd. Ceir hefyd ffurf 1 a 3 un. grff. kigleu โclywais, clywoddโ o'r ferf clywet โclywedโ, sydd yn hynafol iawn ac yn cyfateb i'r Hen Wyddeleg ยทcรบala, -ae โclywais(t), -oddโ o'r ferf roยทcluinethar โmaeโn clywedโ.
Ceir mewn Cymraeg Canol ragor o ffurfiau lluosog i'r ansoddeiriau nac yn yr iaith gyfoes, e. e. cochion.
Roedd terfyniad lluosog enwol -awr yn gyffredin iawn mewn Cymraeg Canol, ond disodlwyd hyn gan y terfyniad -au.
Fel mewn Cymraeg gyfoes ysgrifenedig, nid y drefn "berf-goddrych-gwrthrych" (Gwelodd y brenin gastell) a ddefnyddiwyd yn unig mewn Cymraeg Canol, ond y drefn afreolaidd a'r drefn gymysg hefyd (Y brenin a welodd gastell). Awgrymai'r drefn gymysg bwyslais ar y goddrych, a ddefnyddir yn aml mewn Cymraeg heddiw i bwysleisio rhywbeth. Y gwahaniaeth rhwng y ddwy oedd y daeth yr elfen negyddol ni/na o flaen y goddrych yn y drefn gymysg (felly, buasai Ni brenin a welodd gastell yn golygu 'Nid y brenin a welodd y castell') ond o flaen y ferf yn y drefn afreolaidd (felly, Brenin ni welodd gastell = Welodd y brenin ddim castell).