Search for LIMS content across all our Wiki Knowledge Bases.
Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Llyfrgell genedlaethol Ffrainc yw'r Bibliothèque nationale de France (BnF), a leolir ym Mharis. Ynghyd â'r Llyfrgell Brydeinig yn Llundain, mae'n un o ddwy lyfrgell fwyaf Ewrop.[1] Yn 2024, roedd 16 miliwn o lyfrau a chyfnodolion yno, ynghyd ag amryw o gasgliadau eraill.[2] Mae'r sefydliad yn tarddu'n ôl i lyfrgell breifat Siarl V, brenin Ffrainc.[3] Agorodd y llyfrgell i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn 1692, ac ers 1793 mae wedi dal copi o bob llyfr a gaiff ei gyhoeddi yn Ffrainc.[1] Rhwng 1996 a 1998 symuodd nifer o gasgliadau i safle newydd a elwir yn safle "François Mitterrand" ar ôl yr arlywydd a'i gomisiynodd;[3] mae'r safle hyn bellach yn dwyn yr enw "Safle Richelieu".[1]
Oriel
Salle Labrouste, wedi'i enwi ar ôl y pensaer Henri Labrouste, ar safle Richelieu
Ystafell ddarllen Bibliothèque nationale de France-Cardinal de Richelieu