Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Bernard Madoff | |
---|---|
Ffotograff Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau o Bernard Madoff, 2009. | |
Ganwyd | 29 Ebrill 1938 Queens, Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 14 Ebrill 2021 Federal Medical Center, Butner |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | brocer stoc, ariannwr, economegydd, banciwr |
Tad | Ralph Madoff |
Priod | Ruth Madoff |
Plant | Mark Madoff, Andrew Madoff |
Cyn-ddyn busnes, brocer stoc, cynghorwr buddsoddi, ac ariannwr Americanaidd oedd Bernard Lawrence "Bernie" Madoff (/[invalid input: 'icon']ˈmeɪdɒf/;[1] 29 Ebrill 1938 – 14 Ebrill 2021).[2] Ef oedd cyn-gadeirydd anweithredol y farchnad stoc NASDAQ, ac roedd tu ôl i'r cynllun Ponzi mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau.
Ym mis Mawrth 2009, plediodd Madoff yn euog i 11 o feloniaethau: twyll gwarantau, twyll cynghori buddsoddwyr, twyll post, twyll gwifr, prosesu arian anghyfreithlon yn rhyngwladol i alluogi twyll wrth werthu gwarantau, prosesu arian anghyfreithlon yn rhyngwladol i guddio elw o dwyll wrth werthu gwarantau, prosesu arian anghyfreithlon, gwneud datganiadau anwireddus, anudoniaeth, gwneud cofnod anwireddus â'r Comisiwn Gwarantau a Chyfnewid, a lladrad o gynllun budd-daliadau gweithwyr.[3] Cafodd ei ddedfrydu i'r carchar am 150 mlynedd lle bu farw yn 82 mlwydd oed.[4]