Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Aymara | ||
---|---|---|
Aymar aru | ||
Siaredir yn | Bolifia, Periw hefyd Tsile, Yr Ariannin | |
Cyfanswm siaradwyr | 2.8 million (2000–2006) | |
Teulu ieithyddol | Aymara | |
System ysgrifennu | Lladin | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | ay | |
ISO 639-2 | aym | |
ISO 639-3 | aym | |
Wylfa Ieithoedd | – | |
Mae Aymara (Aymar aru) yn iaith a siaradir gan bobol Aymara yn ardal mynyddoedd yr Andes yn ne America, yn bennaf yng ngorllewin Bolifia.
Gyda 2,589,000 o siaradwyr (Bolifia: 2,098,000, Periw: 442,000, Yr Ariannin: 30,000, Tsile: 19,000) mae yn un o ychydig o ieithoedd brodorol America gyda thros dwy filiwn o siaradwyr.[1][2]
Yr ieithoedd Americanaidd brodorol gyda mwy na miliwn o siaradwyr yw Nahwatleg (Mecsico), Quechua (Andes), a Guarani (Paragwâi), Gogledd yr Ariannin a Bolifia)
Mae rhai ieithyddion yn dadlau bod Aymara yn perthyn i Quechua, ond mae gryn anghytundeb ynglŷn â hyn.
Cafodd ieithoedd brodorol de America eu hisraddio a'u gwahardd am lawer o flynyddoedd. Pan enillodd Bolifia ei annibyniaeth o Sbaen ym 1825, cadwyd Sbaeneg fel unig iaith swyddogol y wlad. Serch hynny dim ond yn 1976 ddaeth Sbaeneg i fod yn iaith mwyafrif pobl Bolifia gyda phobl Bolifia'n dod yn siaradwyr uniaith Sbaeneg neu'n ddwyieithog yn Sbaeneg ac un o 30 ieithoedd brodorol ar draws Bolifia.
Mae siaradwyr uniaith Aymara yn prinhau, ym 1950 ysgrifennodd yr hanesydd Herbet Klein roedd 664,000 o bobl Bolifia yn siarad dim ond Aymara. Erbyn 1976 roedd y rhif yn wedi'i haneri ac erbyn y ganrif newydd dim ond rhyw chwarter miliwn.
Ond mae datblygiadau diweddaraf wedi gwella sefyllfa Aymara. Ers 2006, mae llywodraeth Evo Morales wedi cydnabod hawliau'r bobloedd frodorol gyda chyfansoddiad newydd gan newid y wlad i fod yn plurinacional (aml-genedl).
Mae Morales ei hun o dras Aymara ac yn arlywydd cyntaf y wlad o dras frodorol. Mae gweision sifil newydd yn gorfod siarad Sbaeneg ac o leiaf un iaith frodorol. Mae'r iaith Aymara yn cael ei defnyddio yn fwy ar y cyfryngau ac mewn addysg.
Agorwyd prifysgol i'r bobl Aymara Universidad Indígena Aymara de Bolivia Túpac Katari wedi'i enwi ar ôl Túpac Katari, arwr gwrthryfel 1781yn erbyn y Sbaenwyr.[3][4]
Naya saparukiw jiwyapxitaxa nayxarusti, waranqa, waranqanakaw tukutaw kut'anipxani.
Heddiw maent yn fy lladd, ond byddaf yn ôl gyda miliynau (geiriau olaf Túpac Katari)