Knowledge Base Wiki

Search for LIMS content across all our Wiki Knowledge Bases.

Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.

A. H. Dodd
Ganwyd1891 Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mai 1975 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata

Hanesydd o Gymru oedd yr Athro Arthur Herbert Dodd (1891 - 21 Mai 1975), a arbenigai yng nghyfnod y Tuduriaid a'r Stiwardiaid yng Nghymru ac yn hanes y Chwyldro Diwydiannol.

Bywgraffiadau

Ganed Dodd yn Wrecsam, lle roedd ei dad Charles yn brifathro. Roedd tueddiadau academaidd yn y teulu; daeth un o'i dri brawd, C. H. Dodd, i amlygrwydd fel ysgolhaig yn arbenigo ar y Testament Newydd. Aeth i Ysgol Ramadeg Wrecsam ac yna i Goleg Newydd, Rhydychen ym 1911. Wedi graddio mewn hanes, ymunodd รข chorfflu meddygol y fyddin (RAMC) ym 1914.

Penodwyd ef yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Bangor ym 1919, ac ym 1930 dilynodd Syr John Edward Lloyd fel Athro Hanes yno. Bu hefyd yn dysgu yn yr Adran Efrydiau Allanol a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Ymddeolodd ym 1958, ond bu'n gweithio wedyn fel curadur Amgueddfa Bangor ac yn dysgu yng Ngholeg y Normal, Bangor.

Llyfrau

  • The Industrial Revolution in North Wales (1933)
  • Studies in Stuart Wales (1952)
  • Life in Elizabethan England (1961)
  • A History of Caernarvonshire (1968)
  • Life in Wales (1972)
  • A Short History of Wales (1977) (cyhoeddwyd ar รดl ei farwolaeth)