Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Delwedd:Wikipe-tan in Different Anime Styles.png, Anime DVDs.JPG, Anime video frame.png | |
Enghraifft o'r canlynol | genre mewn ffilm, animation style |
---|---|
Math | gwaith clyweld |
Rhan o | anime and manga |
Yn cynnwys | ffilm anime, anime television program |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Talfyriad Japaneg o'r gair Saesneg "animation" ydy anime (Japaneg: アニメ) [anime] (gwrando) ac mae'n cyfeirio'n benodol at animeiddiadau wedi'u cynhyrchu yn Japan.[1]
Mae'n deillio yn ôl i 1917,[2] a daeth yn ffasiynol iawn yn Japan ers hynny. Yn yr 1980au daeth yn ffasiynol drwy'r byd. Mae'n cael ei ddarlledu ar deledu, fideo, DVD a hyd yn oed yn y theatr.
Ceir dau fath: cartwnau wedi'u gwneud gyda llaw a rhai wedi'u cynhyrchu gan gyfrifiadur.
Un esiampl o anime yw'r rhaglen Siapaneg "Sailor Moon". Mae'n sôn am bum merch sy'n stopio'r 'Negaverse' drwg rhag cymryd drosodd Tokyo.
Mae'r gair "Anime" yn tarddu o'r dywediad Ffrangeg dessin animé.[3]
Mae'r diwydiant anime yn cynnwys dros 430 o stiwdios, llawer yn enwau mawr: Studio Ghibli, Gainax a Toei Animation. Dim ond ychydig o'r farchnad domestig sydd ganddyn nhw ond talp enfawr o'r diwydiant DVD. Mae anime wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y deng mlynedd diwaetha. Mae anime Japan wedi cael ei gopio gan nifer o wledydd eraill.
Math o gelf ydy Anime, yn enwedig mewn animeiddiadau, ac mae'n cynnwys yr holl genres y sinema, ond mae o'n cael ei gam-alw yn genre ei hun.[4]:7 Yn Japan caiff y gair ei ddefnyddio am bob math o animeiddio drwy'r byd.[5] Mae geiriaduron Saesneg yn diffinio anime fel "animeiddiad o Japan" neu "math o animeiddio a sefydlwyd yn Japan".[6][7]
Mae llawer o anime wedi'i seilio ar fanga; dyma'r gwahanol fathau:
Cychwynodd anime ar ddechrau'r 20g, pan grëodd cyfarwyddwyr o Japan nifer o animeiddiadau, gyda nifer o wledydd eraill yn dilyn: Ffrainc, yr Almaen, Rwsia a'r Unol Daleithiau America.[8] Y darn cyntaf i gael ei greu oedd yn 1917 – clip dau funud yn dangos samwrai yn ymarfer ei gleddyf ar ei darget.[9][10] Enw rhai o'r arlunwyr cyntaf ydy: Shimokawa Oten, Jun'ichi Kouchi, a Seitarō Kitayama.[11]
|deadurl=
ignored (help)
|date=
(help)
|coauthors=
ignored (help)