Type a search term to find related articles by LIMS subject matter experts gathered from the most trusted and dynamic collaboration tools in the laboratory informatics industry.
Mae'r 200 metr yn gamp athletau lle fydd cystadleuwyr yn rhedeg ras sbrint. Mae'r ras yn cael ei rhedeg ar drac awyr agored gan ddechrau ar y gromlin ac yn dod i ben ar yr hyd syth olaf[1]. Mae angen cyfuniad o dechnegau i redeg y ras yn llwyddiannus. Mae'r 200m yn rhoi mwy o bwyslais ar ddygnwch cyflymder na phellteroedd sbrint byrrach wrth i athletwyr ddibynnu ar systemau ynni gwahanol yn ystod y sbrint hirach.
Ras ychydig yn fyrrach, o'r enw'r stadion a oedd yn cael ei redeg ar drac syth, oedd y gamp gyntaf a gofnodwyd yn y Gemau Olympaidd hynafol.[2]
Yng ngwledydd Prydain a llefydd eraill, bu athletwyr yn rhedeg y wib 220 llathen (201.168 m) yn hytrach na'r 200 metr (218.723 llathen) [3], ond mae'r ras yma wedi dod i ben. Yr addasiad safonol a ddefnyddir i drosi amseroedd recordiau dros 220 llath i 200 m yw trwy dynnu 0.1 eiliad, ond mae dulliau trosi eraill yn bodoli
Fersiwn arall a ddaeth i ben oedd y 200 metr ar drac unionsyth. Pan ddechreuodd y Gymdeithas Athletau Amatur Rhyngwladol (a elwir bellach yn Gymdeithas Ryngwladol Cymdeithasau Athletau) i gadw recordiau'r byd yn 1912, dim ond cofnodion a osodwyd ar drac syth oedd yn gymwys i'w hystyried. Yn 1951, dechreuodd yr IAAF gydnabod recordiau a dorrwyd ar lwybr crwm. Ym 1976, cafodd y record syth ei ddileu.
Mae'r ras yn denu rhedwyr o ddigwyddiadau eraill, yn bennaf y 100 metr, sy'n dymuno dyblu a hawlio'r ddau deitl. Cyflawnwyd y gamp hon gan ddynion un ar ddeg gwaith yn y Gemau Olympaidd: gan Archie Hahn ym 1904, Ralph Craig ym 1912, Percy Williams ym 1928, Eddie Tolan ym 1932, Jesse Owens ym 1936, Bobby Morrow ym 1956, Valeriy Borzov ym 1972, Carl Lewis ym 1984, ac yn fwyaf diweddar gan Usain Bolt o Jamaica yn 2008, 2012, a 2016. Mae'r "dwbl" wedi'i gyflawni gan ferched saith gwaith: gan Fanny Blankers-Koen ym 1948, Marjorie Jackson ym 1952, Betty Cuthbert ym 1956, Wilma Rudolph ym 1960, Renate Stecher ym 1972, Florence Griffith-Joyner ym 1988, ac Elaine Thompson yn 2016. Gorffennodd Marion Jones yn gyntaf yn y ddwy ras yn 2000 ond cafodd ei gwahardd yn ddiweddarach a cholli ei medalau ar ôl cyfaddef iddi gymryd cyffuriau gwella perfformiad. Cafodd Dwbl Olympaidd o 200 m a 400 m ei gyflawni gyntaf gan Valerie Brisco-Hooks ym 1984, ac yn ddiweddarach gan Michael Johnson o'r Unol Daleithiau a Marie-José Pérec o Ffrainc ym 1996. Usain Bolt yw'r unig ddyn i'w ailadrodd fel pencampwr Olympaidd, Bärbel Wöckel (née Eckert) a Veronica Campbell-Brown yw'r unig ddwy ferch sydd wedi ailadrodd y gamp fel pencampwyr Olympaidd.
Deiliad record byd y dynion yw Usain Bolt o Jamaica, a fu'n rhedeg 19.19 ym Mhencampwriaethau'r Byd 2009. Deiliad record byd y merched yw Florence Griffith-Joyner o'r Unol Daleithiau, a fu'n rhedeg 21.34 yn Gemau Olympaidd Haf 1988. Y pencampwyr Olympaidd cyfredol yw Usain Bolt ac Elaine Thompson (Jamaica). Pencampwyr y Byd cyfredol yw Ramil Guliyev (Twrci) a Dafne Schippers (yr Iseldiroedd).
Nid yw rasys sy'n cael eu rhedeg gyda gwynt cynorthwyol a fesurir dros 2.0 metr yr eiliad yn dderbyniol at ddibenion cofnodi recordiau.
Gemau | Aur | Arian | Efydd |
---|---|---|---|
1948 Llundain | Fanny Blankers-Koen Yr Iseldiroedd |
Audrey Williamson Y Deyrnas Unedig |
Audrey Patterson UDA |
1952 Helsinki | Marjorie Jackson Awstralia |
Bertha Brouwer Yr Iseldiroedd |
Nadezhda Khnykina-Dvalishvili Yr Undeb Sofietaidd |
1956 Melbourne | Betty Cuthbert Awstralia |
Christa Stubnick Yr Almaen |
Marlene Mathews Awstralia |
1960 Rome | Wilma Rudolph UDA |
Jutta Heine Yr Almaen |
Dorothy Hyman Y Deyrnas Unedig |
1964 Tokyo | Edith McGuire UDA |
Irena Kirszenstein Gwlad Pwyl |
Marilyn Black Awstralia |
1968 Mexico City | Irena Szewińska Gwlad Pwyl |
Raelene Boyle Awstralia |
Jenny Lamy Awstralia |
1972 Munich | Renate Stecher Dwyrain yr Almaen |
Raelene Boyle Awstralia |
Irena Szewińska Gwlad Pwyl |
1976 Montreal | Bärbel Eckert Dwyrain yr Almaen |
Annegret Richter Yr Almaen |
Renate Stecher Dwyrain yr Almaen |
1980 Moscow | Bärbel Wöckel Dwyrain yr Almaen |
Natalya Bochina Yr Undeb Sofietaidd | Merlene Ottey Jamaica |
1984 Los Angeles | Valerie Brisco-Hooks UDA |
Florence Griffith UDA |
Merlene Ottey Jamaica |
1988 Seoul | Florence Griffith-Joyner UDA |
Grace Jackson Jamaica |
Heike Drechsler Dwyrain yr Almaen |
1992 Barcelona | Gwen Torrence UDA |
Juliet Cuthbert Jamaica |
Merlene Ottey Jamaica |
1996 Atlanta | Marie-José Pérec Ffrainc |
Merlene Ottey Jamaica |
Mary Onyali Nigeria |
2000 Sydney | Pauline Davis-Thompson Y Bahamas |
Susanthika Jayasinghe Sri Lanca |
Beverly McDonald Jamaica |
2004 Athen | Veronica Campbell Jamaica |
Allyson Felix UDA |
Debbie Ferguson Y Bahamas |
2008 Beijing | Veronica Campbell-Brown Jamaica |
Allyson Felix UDA |
Kerron Stewart Jamaica |
2012 Llundain | Allyson Felix UDA |
Shelly-Ann Fraser-Pryce Jamaica |
Carmelita Jeter UDA |
2016 Rio de Janeiro | Elaine Thompson Jamaica |
Dafne Schippers Yr Iseldiroedd |
Tori Bowie UDA |
Pencampwriaeth | Aur | Arian | Efydd |
---|---|---|---|
1983 Helsinki | Calvin Smith UDA |
Elliott Quow UDA |
Pietro Mennea Yr Eidal |
1987 Rhufain | Calvin Smith UDA |
Gilles Quénéhervé Ffrainc |
John Regis Y Deyrnas Unedig |
1991 Tokyo | Michael Johnson UDA |
Frankie Fredericks Namibia |
Atlee Mahorn Canada |
1993 Stuttgart | Frankie Fredericks Namibia |
John Regis Y Deyrnas Unedig |
Carl Lewis UDA |
1995 Gothenburg | Michael Johnson UDA |
Frankie Fredericks Namibia |
Jeff Williams UDA |
1997 Athen | Ato Boldon Trinidad a Tobago |
Frankie Fredericks Namibia |
Claudinei da Silva Brasil |
1999 Seville | Maurice Greene UDA |
Claudinei da Silva Brasil |
Francis Obikwelu Nigeria |
2001 Edmonton | Konstantinos Kenteris Gwlad Groeg |
Christopher Williams Jamaica |
Shawn Crawford UDA |
2003 Saint-Denis | John Capel UDA |
Darvis Patton UDA |
Shingo Suetsugu Japan |
2005 Helsinki | Justin Gatlin UDA |
Wallace Spearmon UDA |
John Capel UDA |
2007 Osaka | Tyson Gay UDA |
Usain Bolt Jamaica |
Wallace Spearmon UDA |
2009 Berlin | Usain Bolt Jamaica |
Alonso Edward Panamâ |
Wallace Spearmon UDA |
2011 Daegu | Usain Bolt Jamaica |
Walter Dix UDA |
Christophe Lemaitre Ffrainc |
2013 Moscow | Usain Bolt Jamaica |
Warren Weir Jamaica |
Curtis Mitchell UDA |
2015 Beijing | Usain Bolt Jamaica |
Justin Gatlin UDA |
Anaso Jobodwana De Affrica |
2017 Llundain | Ramil Guliyev Twrci |
Wayde van Niekerk De Affrica |
Jereem Richards Trinidad a Tobago |
Pencampwriaeth | Aur | Arian | Efydd |
---|---|---|---|
1983 Helsinki | Marita Koch Dwyrain yr Almaen |
Merlene Ottey Jamaica |
Kathy Smallwood-Cook Y Deyrnas Unedig |
1987 Rhufain | Silke Gladisch Dwyrain yr Almaen |
Florence Griffith-Joyner UDA |
Merlene Ottey Jamaica |
1991 Tokyo | Katrin Krabbe Yr Almaen |
Gwen Torrence UDA |
Merlene Ottey Jamaica |
1993 Stuttgart | Merlene Ottey Jamaica |
Gwen Torrence UDA |
Irina Privalova Rwsia |
1995 Gothenburg | Merlene Ottey Jamaica |
Irina Privalova Rwsia |
Galina Malchugina Rwsia |
1997 Athen | Zhanna Pintusevich-Block Wcráin |
Susanthika Jayasinghe Sri Lanca |
Merlene Ottey Jamaica |
1999 Seville | Inger Miller UDA |
Beverly McDonald Jamaica |
Merlene Frazer Jamaica Andrea Philipp Yr Almaen |
2001 Edmonton | Debbie Ferguson Y Bahamas |
LaTasha Jenkins UDA |
Cydonie Mothersille Ynysoedd Caiman |
2003 Saint-Denis | Anastasiya Kapachinskaya Rwsia |
Torri Edwards UDA |
Muriel Hurtis Ffrainc |
2005 Helsinki | Allyson Felix UDA |
Rachelle Boone-Smith UDA |
Christine Arron Ffrainc |
2007 Osaka | Allyson Felix UDA |
Veronica Campbell Jamaica |
Susanthika Jayasinghe Sri Lanca |
2009 Berlin | Allyson Felix UDA |
Veronica Campbell-Brown Jamaica |
Debbie Ferguson-McKenzie Y Bahamas |
2011 Daegu | Veronica Campbell-Brown Jamaica |
Carmelita Jeter UDA |
Allyson Felix UDA |
2013 Moscow | Shelly-Ann Fraser-Pryce Jamaica |
Murielle Ahouré Arfordir Ifori |
Blessing Okagbare Nigeria |
2015 Beijing | Dafne Schippers Yr Iseldiroedd |
Elaine Thompson Jamaica |
Veronica Campbell-Brown Jamaica |
2017 Llundain | Dafne Schippers Yr Iseldiroedd |
Marie-Josée Ta Lou Arfordir Ifori |
Shaunae Miller-Uibo Y Bahamas |