Infrastructure tools to support an effective radiation oncology learning health system
Arwyddair | Ochr Heulog Bywyd |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, ynys-genedl, gwlad, gwladwriaeth archipelagig |
Prifddinas | Malé |
Poblogaeth | 436,330 |
Sefydlwyd |
|
Anthem | Gaumiii salaaam |
Pennaeth llywodraeth | Mohamed Muizzu |
Cylchfa amser | UTC+05:00, Indian/Maldives |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Divehi |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Asia |
Gwlad | Maldives |
Arwynebedd | 298 km² |
Yn ffinio gyda | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 4.18°N 73.51°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Majlis y Bobl |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd y Maldives |
Pennaeth y wladwriaeth | Mohamed Muizzu |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd y Maldives |
Pennaeth y Llywodraeth | Mohamed Muizzu |
Crefydd/Enwad | Swnni |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $5,406 million, $6,190 million |
Arian | Maldivian rufiyaa |
Canran y diwaith | 12 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.71 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.747 |
Gwlad yng Nghefnfor India i'r de-orllewin o India a Sri Lanca yw Gweriniaeth Maldives neu'r Maldives. Mae'n cynnwys cadwyn o 1,196 o ynysoedd sydd wedi'u lleoli tua 750 km (470 milltir) o'r tir mawr. Mae'r gadwyn yn ymestyn tua 870 km (540 milltir) o'r gogledd i'r de. Saif ei bwynt mwyaf deheuol ychydig i'r de o'r cyhydedd.
Dim ond 220 o ynysoedd y mae pobl yn byw ynddynt. Mae'r rhan fwyaf o'r tir tua 1 metr yn uwch na lefel y môr, sy'n golygu bod y trigolion mewn perygl arbennig oherwydd y cynnydd byd-eang yn lefel y môr. Dim ond 5.1 m o uchder yw'r pwynt uchaf, sydd ar ynys Vilingilli yn Addu Atoll. Mae riffiau cwrel yn cynnig rhywfaint o amddiffyniad rhag y stormydd monsŵn treisgar aml. Mae'r ynysoedd wedi'u gorchuddio â choed palmwydd a ffrwythau bara ac wedi'u hamgylchynu gan lagynau a thraethau tywodlyd.