Infrastructure tools to support an effective radiation oncology learning health system
Cynnwys
Mewn athroniaeth, defnyddir y cysyniad Groegaidd o eudaimonia i gyfeirio at hapusrwydd, a olygir y bywyd da, llewyrchus, yn hytrach nag emosiwn o reidrwydd.
Mewn seicoleg, mae hapusrwydd yn stad feddyliol neu emosiynol o les unigolyn a ellir ei ddiffinio gan, ymysg eraill, emosiynau cadarnhaol neu ddymunol sy'n amrywio o fodlonrwydd i lawenydd dwys.[1] Gall stadau meddyliol hapus adlewyrchu rhagfarnau gan berson am ei les cyffredinol.[2]
Ers yr 1960au, cynhaliwyd ymchwil ar hapusrwydd mewn sawl maes gwyddonol, yn cynnwys seicoleg gymdeithasol, clinigol, ymchwil meddygol ac economeg hapusrwydd.
Diffiniad
Mae hapusrwydd yn gysyniad niwlog. Mae rhai cysyniadau yn cynnys llesiant, ansawdd bywyd, llwyddiant, a bodlonrwydd.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ "happiness". Wolfram Alpha.
- ↑ Anand, P (2016). Happiness Explained. Oxford University Press.
- ↑ Graham, Michael C. (2014). Facts of Life: ten issues of contentment. Outskirts Press. tt. 6–10. ISBN 978-1-4787-2259-5.