FAIR and interactive data graphics from a scientific knowledge graph
Cynnwys
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | disaccharide |
Màs | 342.116 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₂h₂₂o₁₁ |
Enw WHO | Lactulose |
Clefydau i'w trin | Hepatic coma, rhwymedd, hepatic encephalopathy, rhwymedd |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america b |
Yn cynnwys | ocsigen, carbon, hydrogen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae lactwlos yn siwgr na ellir ei amsugno sy’n cael ei ddefnyddio i drin rhwymedd ac enseffalopathi hepatig.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₂H₂₂O₁₁. Fe'i gweinir trwy'r gen ar gyfer rhwymedd a naill ai trwy'r gen neu'r rectwm ar gyfer enseffalopathi hepatig. Yn gyffredinol, mae'n dechrau gweithio ar ôl wyth i undeg dau awr, ond gall gymryd hyd at ddau ddiwrnod i wella'r rhwymedd. Mae ar gael dros y cownter heb ragnodyn. Mae ar gael fel cyffur generig neu efo'r enwau brand Duphalac a Lactugal[2]. Mae'r feddyginiaeth ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
Defnydd meddygol
Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Mae lactulose yn garthydd effeithiol sydd yn meddalu'r ymgarthion trwy gynyddu faint o ddŵr sydd yn y coluddyn mawr[3]. Mae'n cael ei ddefnyddio i drin rhwymedd, yn arbennig rhwymedd gan gleifion hŷn. Mae'r cyffur yn llai tebygol nac eraill i darddu ar weithrediad naturiol y coluddion. Mae lactulose yn cael ei ddefnyddio i drin rhwymedd sy'n cael ei achosi gan gymryd cyffuriau opioid, ac yn y driniaeth symptomatig o glwyf y marchogion (peils) fel meddalydd carthion. Mae lactulose yn ddefnyddiol wrth drin hyperammonemia (lefelau uchel o amonia yn y gwaed), a all arwain at enseffalopathi hepatig (anhwylder ar yr ymennydd sy'n cael ei achosi gan fethiant yr afu). Mae laculose yn helpu i ddal yr amonia (NH3) yn y coluddion ac yn rhwymo ato. Mae hefyd yn ddefnyddiol i atal hyperammonemia a achosir fel sgil effaith falporad I drin enseffalopathi hepatig efo lactulose mae gofyn gweini dosiau cymharol fawr dair neu bedair gwaith y dydd. Bydd hyn bron yn sicr o arwain at y dolur rhydd. Gan hynny bydd cleifion sy'n derbyn y driniaeth yn gwisgo cewynnau oedolion ar gyfer unrhyw weithgareddau i ffwrdd o'r cartref neu yn y nos (gyda phad llinyn ar gyfer y gwely) oherwydd gall y dolur rhydd ddigwydd yn gyflym a heb lawer o rybudd.
Dos
Ar gyfer rhwymedd rhoddir dos o 15-30ml yn ddyddiol wedi ei rannu'n dau ddos y dydd. Ar gyfer methiant yr afu, 90 i 150ml y dydd wedi ei rannu'n tri neu bedwar dos. Mae'n dechrau gweithio o fewn diwrnod neu ddau a gall barhau i weithio am 6 i 18 awr. Mae'n bwysig yfed o leiaf wyth gwydriad o ddŵr ychwanegol pob dydd wrth gymryd lactulose i wneud iawn am y dŵr caiff ei golli o'r coluddion trwy'r driniaeth.
Sgil effeithiau
Prin yw'r sgil effeithiau difrifol, ac maent yn tueddu i ddiflannu wrth i'r claf dod i arfer a'r meddyginiaeth. Mae presenoldeb y ddolur rhudd yn awgrymu bod y dos yn rhy uchel a dyle'r claf trafod ei newid efo'r meddyg. Y sgil effeithiau mwyaf cyffredin yw gwynt (fflatws a bytheiriad); cwlwm gwythi yn yr ystumog; y dolur rhydd; chwydu / teimlo'n gyfoglyd; chwyddiant yn y bol[4].
Enwau
Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw Lactwlos, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
- ↑ Pubchem. "Lactwlos". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ BMA New Guide to Medicine & Drugs; BMA 2015 ISBN 0241183413
- ↑ NHS UK lactulose[dolen farw] adalwyd 26 Ionawr 2018
- ↑ Nursing Times - Lactulose adalwyd 26 Ionawr 2018